Troseddeg - Tystysgrif
Ynghylch y cwrs hwn
Mae’r cwrs wedi ei anelu at y rhai sy’n chwilio am yrfa ar gyfer y dyfodol yn y sector cyfiawnder troseddol, cymdeithaseg, a gwaith cymdeithasol seicolegol a phrofiannaeth. Mae ganddo gymysgedd o asesiadau mewnol ac allanol dros 2 flynedd ac mae’n cyfateb i 1 Safon Uwch o ran pwyntiau tariff UCAS.
Mae'r cwrs yn ymdrin â'r testunau canlynol: Newid Ymwybyddiaeth o Drosedd; Damcaniaethau Troseddeg; O’r Safle Drosedd i’r Cwrt, a Throsedd a Chosb.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Blwyddyn 1af
Uned 1 - Newid Ymwybyddiaeth o Drosedd
Bydd yr uned orfodol gyntaf yn galluogi dysgwyr i arddangos dealltwriaeth o wahanol fathau o drosedd, dylanwadau ar ganfyddiadau trosedd a pham nad oes sôn am rai troseddau. Bydd yn cael ei asesu’n fewnol drwy asesiad cyfansymiol.
Uned 2 - Damcaniaethau Troseddegol
Bydd hyn yn galluogi’r dysgwr i gymhwyso eu dealltwriaeth o’r cysyniadau cyhoeddus ynghylch troseddau ac ymgyrchoedd ar gyfer newid a astudiwyd yn ystod Uned 1 gyda damcaniaethau troseddegol er mwyn archwilio sut mae’r ddau beth yn cael eu defnyddio i sefydlu polisi. Mae damcaniaethau i'w harchwilio o fewn y grwpiau ehangach canlynol:
- Damcaniaethau biolegol
- Hawliau Unigol
- Damcaniaethau Cymdeithasegol
Bydd yn cael ei asesu yn allanol drwy bapur ysgrifenedig 1 awr a 30 munud.
2il Flwyddyn
Uned 3 - O Leoliad y Drosedd i’r Llys
Bydd hyn yn galluogi'r dysgwr i ddatblygu’r ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i archwilio gwybodaeth er mwyn adolygu cyfiawnder yr achosion troseddol gan gynnwys trosedd dreisgar, e-drosedd a throsedd eiddo. Bydd yn cael ei asesu’n fewnol drwy asesiad cyfansymiol.
Uned 4 - Trosedd a Chosb
Bydd hyn yn galluogi datblygu sgiliau er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd y broses o reolaeth gymdeithasol wrth gyflwyno polisi yn ymarferol. Bydd yr uned hefyd yn ystyried ffurfiau o Reolaeth Gymdeithasol, megis delfrydiaeth resymegol, traddodiad, mewnoliad, gorfodaeth, ataliaeth yn ogystal â ffurfiau o gosbi, carcharu, gwasanaeth yn y gymuned a ffurfiau ariannol. Bydd yn cael ei asesu yn allanol drwy bapur ysgrifenedig 1 awr a 30 munud.
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Unigol i’r Pwnc TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd C
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyfleusterau
Mwy...
"Rwyf wrth fy modd yn astudio fy nghwrs yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n gymaint o sbort! Mae'r annibyniaeth a'r rhyddid rydych chi'n eu cael yn wych A chewch eich tri fel oedolyn. Rwyf wrth fy modd. Yn y coleg, mae'n debyg fy mod wedi mwynhau'r perthnasaoedd clos sydd gennyf gyda fy athrawen. Rwyf wirioneddol yn teimlo y gallaf droi at fy athrawon gydag unrhyw broblemau yr wyf yn eu cael ac y byddant yn fy helpi i weithio dryddynt."
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Bydd y cwrs yn galluogi dilyniant i gyrsiau prifysgol megis BA/Sc Troseddeg yn ogystal â chwrs LLB (Anrhydedd) Y Gyfraith a Throseddeg.
Fel opsiwn amgen, mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ennill y ddealltwriaeth a’r sgiliau er mwyn gallu ystyried cyflogaeth o fewn rhai agweddau o’r system cyfiawnder troseddol e.e. y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd neu’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu