Seicoleg Gymhwysol BTEC - Tystysgrif
Ynghylch y cwrs hwn
Mae’r cwrs yn gyflwyniad rhagorol i seicoleg gymhwysol, sy’n galluogi myfyrwyr i ystyried ei phwysigrwydd ar draws sawl agwedd ar ein bywydau, gan gynnwys cymwysiadau ymarferol.
Mae cymhwyster seicoleg yn galluogi'r dysgwr i ddatblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy fel meddwl critigol ac ysgrifennu ochr yn ochr â mynediad i ystod eang o yrfaoedd, o gwnsela a therapi i waith fforensig a’r gyfraith.
Cynhelir asesiadau ar ffurf un asesiad mewnol ac un asesiad allanol bob blwyddyn ac mae pynciau a astudir yn cynnwys Dulliau a Chymwysiadau Seicolegol a Seicoleg Droseddol a Fforensig
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Uned 1 – Dulliau a Chymwysiadau Seicolegol
Asesiad allanol: Arholiad ysgrifenedig 1.5 awr o hyd
Mae sawl ffordd o egluro neu ddeall ymddygiad dynol er mwyn ei drin. Mae’r uned hon yn archwilio sut mae pedwar o’r prif ddulliau ym maes seicoleg yn ein helpu i wneud hyn o’u gwahanol bersbectifau nhw: Gwybyddol, Cymdeithasol, Ymddygiadol a Biolegol. Bydd cysyniadau allweddol ac astudiaethau allweddol perthnasol hefyd yn cael eu trafod a’u gwerthuso. Bydd y wybodaeth a ddysgir o bob dull yn cael ei defnyddio i egluro trais mewn cymdeithas, sut mae seicoleg yn cael ei defnyddio i egluro a dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr, a sut all egluro rhywedd.
Uned 2 – Cynnal Ymchwil Seicolegol
Asesiad mewnol – Asesiad ysgrifenedig yn cynnwys 3 adroddiad
Yn y bôn, mae gan bob un ohonom elfennau seicolegydd, ond nid yw ymchwil seicolegol wedi’i seilio ar farn, mae’n dilyn proses wyddonol drylwyr. Mae’r uned hon yn adnabod, yn dadansoddi ac yn cymhwyso pwysigrwydd y broses hon. O’i rôl mewn gwella ymarfer a llywio polisi, i ystyriaethau moesegol yn ymwneud ag ymchwil seicolegol, a deall y broses gyfan o’r cysyniad i gwblhau. Mae’r uned yn cyrraedd uchafbwynt gyda myfyrwyr yn cynllunio, paratoi a chwblhau eu hastudiaeth beilot eu hunain.
Uned 3 – Seicoleg Iechyd
Asesiad allanol: Arholiad ysgrifenedig 2 awr
Mae gan seicolegwyr iechyd ddiddordeb mewn sut y gall ffactorau seicolegol a ffisegol effeithio ar iechyd ac afiechyd. Mae’r uned hon yn cynnwys dulliau, damcaniaethau ac astudiaethau sy’n archwilio’r rhesymau pam mae unigolion yn ymddwyn mewn ffyrdd penodol, fel mynd yn gaeth, a pham mae unigolion yn profi lefelau uchel o straen a’r effaith mae hyn yn ei chael ar iechyd. Yn ogystal â hyn, mae’r uned yn archwilio sut y gall seicolegwyr iechyd wella ymddygiadau iechyd gan ddefnyddio damcaniaethau seicolegol perswadio a dysgu am driniaethau seicolegol ac ymddygiadol.
Unit 4 – Seicoleg Droseddol a Fforensig
Asesiad mewnol – Asesiad ysgrifenedig yn cynnwys 3 adroddiad
Ydy pobl yn cael eu geni yn droseddwyr neu’n troi yn droseddwyr? Mae’r uned hon yn ystyried nifer o wahanol esboniadau am ymddygiad troseddol, yn cysylltu â’r dulliau o uned 1, ac yn dadansoddi’r ffordd orau o drin ymddygiad troseddol; cosbi neu addasu? Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu am wahanol ffyrdd o greu proffil troseddwr ar-lein a byddant yn creu eu proffil eu hunain fel rhan o’r aseiniad terfynol.
Gofynion mynediad
Mae TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg yn ddymunol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Bydd y cwrs yn galluogi dilyniant i gyrsiau prifysgol megis BA/BSc Seicoleg, Gwyddorau Dynol, Cwnsela, Marchnata neu Droseddeg
Fel opsiwn arall, mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ennill y ddealltwriaeth a’r sgiliau gofynnol er mwyn gallu ystyried cyflogaeth o fewn rhai agweddau ar y system cyfiawnder troseddol, marchnata, addysg a’r gwasanaeth sifil. Cymhwyster sydd ar fryd llawer o gyflogwyr oherwydd datblygiad sgiliau allweddol trosglwyddadwy fel meddwl critigol ac ysgrifennu.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu