Cyfraith Gymhwysol BTEC - Tystysgrif

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2025 — 23 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cymhwyster lefel 3 BTEC hwn ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd eisiau parhau â'u haddysg drwy ddysgu cymhwysol gyda'r bwriad o symud at addysg uwch a/neu gyflogaeth, o bosib yn y sector cyfreithiol. Bydd y cwrs yn darparu cyflwyniad sylfaenol i'r system gyfreithiol, ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy a threfn uwch sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan brifysgolion a chyflogwyr (I'r dysgwyr hynny sy'n dymuno ennill cymhwyster uwch, mae'r dystysgrif estynedig ar gael ar ôl cwblhau'r cymhwyster BTEC Cenedlaethol yn llwyddiannus).

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cymhwyster BTEC Cenedlaethol mewn Cyfraith Gymhwysol yn ymdrin â dwy uned orfodol:  Datrys Anghydfod mewn Cyfraith Sifil ac Archwilio Agweddau ar Gyfraith Trosedd a'r System Gyfreithiol.

Uned 1:  Datrys Anghydfod mewn Cyfraith Sifil (addysgir yn ystod Blwyddyn 1)
Asesir yn allanol. Gwerth 50% o'r cymhwyster (Cyfanswm o 60 marc)
Bydd dysgwyr yn archwilio sut mae anghydfod sifil yn cael ei ddatrys, yn y llysoedd a thrwy ddulliau amgen. Bydd dysgwyr yn archwilio cynsail a'i ddefnydd ym maes cyfraith esgeulustod, ynghyd â ffynonellau o gyngor, cyllid, datrysiadau ac atebion. 
Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu sgiliau cyfreithiol mewn ymchwil ac yn defnyddio'r sgiliau ymchwil hynny i archwilio'r ffordd mae'r gyfraith yn cael ei chymhwyso, gan gynnwys y gallu i gyfeirio at ffynonellau cyfreithiol a sut i gyfathrebu'n broffesiynol gyda chydweithwyr a chleientiaid.
(NODER: Os yw'r dysgwyr yn mynd ymlaen i Dystysgrif Estynedig, bydd yr uned hon yn cyfrannu at 25% o'r cymhwyster cyfan)

Uned 2: Archwilio Agweddau ar Gyfraith Trosedd a'r System Gyfreithiol (addysgir yn ystod Blwyddyn 1)
Asesir yn Fewnol. Gwerth 50% o'r cymhwyster BTEC Cenedlaethol (Cyfanswm o 60 marc)
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae cyfreithiau'n cael eu creu a'u dehongli, pwy sy'n cynghori a phenderfynu ar ganlyniadau achosion troseddol a'r cosbau y gellir eu pennu os bydd cyfreithiau'n cael eu torri. Yna, byddant yn darparu cyngor i gleientiaid ar astudiaethau achos o droseddau nad ydynt yn angheuol. 
Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn datblygu'r sgiliau i archwilio ac ymchwilio sut mae deddfau gwahanol yn cael eu creu yn y Senedd, a'r tu allan iddi, a'u dehongli mewn llysoedd. Bydd dysgwyr yn defnyddio sgiliau ymchwilio i archwilio'r ffordd mae'r gyfraith yn cael ei datblygu a'i chymhwyso.
Bydd yr uned hon yn darparu dealltwriaeth o'r ffordd mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio ym Mhrydain. Bydd yn darparu cyfle i ddatblygu sgiliau gwneud penderfyniadau, cyfathrebu, cyflwyno a meddwl yn feirniadol.
(NODER: Os yw'r dysgwyr yn mynd ymlaen i Dystysgrif Estynedig, bydd yr uned hon yn cyfrannu at 25% o'r cymhwyster cyfan)

Uned 3: Cymhwyso'r Gyfraith (addysgir yn ystod Blwyddyn 2)
Asesir yn Allanol. Gwerth 33% o'r cymhwyster cyffredinol sy'n cynnwys BTEC Cenedlaethol
Bydd dysgwyr yn archwilio'r gyfraith sy'n gysylltiedig â throseddau penodol, gan gynnwys llofruddiaeth a dynladdiad, a throseddau yn erbyn eiddo, megis lladrad a byrgleriaeth. Bydd myfyrwyr yn archwilio gweithdrefnau sydd gan yr heddlu ar gyfer delio â throseddau o'r fath, yn ogystal â rhoi ystyriaeth i effaith a goblygiadau troseddau. Hefyd, bydd dysgwyr yn archwilio'r ddeddf sy'n gysylltiedig ag arestio, carcharu a chwilio pobl ac eiddo. 
Bydd myfyrwyr yn archwilio'r gyfraith achos sy'n gysylltiedig â throseddau go iawn, a bydd yn rhaid iddynt fod yn ymwybodol o Ddeddfau Seneddol sy'n berthnasol i droseddau a gweithdrefnau'r heddlu. 
Mae sgiliau datrys problemau ac ymchwilio cyfreithiol yn ganolog i ddysgu'r myfyrwyr, a defnyddir y sgiliau hyn i archwilio'r ffordd mae'r gyfraith yn cael ei datblygu a'i chymhwyso yn ogystal â sgiliau gwneud penderfyniadau a chyfathrebu, lle bydd dysgwyr angen penderfynu sut i gynghori cleientiaid, neu sut y dylai'r heddlu ymateb i sefyllfa benodol. Bydd sgiliau dadansoddol a meddwl yn feirniadol hefyd yn cael eu datblygu.

Uned 4 uned Opsiynol (addysgir yn ystod Blwyddyn 2)
Uned 7: Agweddau ar Gamweddau.  Asesir yn fewnol. Gwerth 17% o'r cymhwyster cyffredinol sy'n cynnwys BTEC Cenedlaethol).

Addysgu ac Asesu: 

Uned 1 - Datrys Anghydfod mewn Cyfraith Sifil (Uned Orfodol a Synoptig) Asesiad wedi'i oruchwylio'n allanol 1 awr 30 munud.
Uned 2 - Archwilio Agweddau ar Gyfraith Trosedd a'r System Gyfreithiol (Uned orfodol) - Asesiad mewnol.
Uned 3 - Cymhwyso'r Gyfraith (Uned Orfodol) - Asesir yn Allanol
Uned 7 - Agweddau ar Gamweddau - asesiad Mewnol - sefyllfaoedd ysgrifenedig

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Unigol i’r Pwnc TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd C

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2025

Dyddiad gorffen

23 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GECC3NF5
L3

Cymhwyster

BTEC National Extended Certificate in Applied Law

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys pwyntiau UCAS a chaiff ei astudio gyfochr â chymwysterau eraill, fel rhan o raglen ddysgu dwy flynedd, ac yna, mae'n cael ei gydnabod gan ddarparwyr addysg uwch fel cyfraniad at fodloni gofynion mynediad ar gyfer nifer o gyrsiau. 

Gall y cymhwyster gefnogi unigolyn i ddilyn cyrsiau addysg uwch, a bydd cyrsiau eraill sy'n cael eu dilyn yn cael eu hystyried.  Hefyd, gall y cymhwyster arwain at gyflogaeth uniongyrchol neu brentisiaeth.

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE