BTEC Cyfrifiadureg – Tystysgrif

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2025 — 23 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Nod y cymhwyster hwn yw cefnogi dysgwyr sydd â diddordeb mewn dysgu am y sector cyfrifiadureg ochr yn ochr â meysydd astudio eraill, gyda’r nod o symud ymlaen i ystod eang o gyrsiau addysg uwch, nid o reidrwydd o fewn y sector cyfrifiadureg. Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i’w astudio fel rhan o raglen sy’n cynnwys cymwysterau BTEC Cenedlaethol neu Safon Uwch eraill priodol. Ceir asesiadau ar ffurf un asesiad mewnol ac un asesiad allanol bob blwyddyn, ac mae’r pynciau a fydd yn cael eu hastudio yn cynnwys:

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Uned 1 - Egwyddorion Gwyddor Gyfrifiadurol - Arholiad Allanol

Mae’r uned hon yn trafod yr egwyddorion sy’n sylfaen i bob maes o wyddor gyfrifiadurol. Bydd yn datblygu eich sgiliau meddwl cyfrifyddol, a byddwch yn defnyddio’r sgiliau hynny i ddatrys problemau.

Yn yr uned hon, byddwch yn archwilio’r ffyrdd rhesymegol a strwythuredig y mae systemau cyfrifiadurol yn eu defnyddio i brosesu data i ddatblygu rhaglenni, prosesau a systemau sy’n datrys problemau penodol. Byddwch yn archwilio nodweddion rhaglennu  cyfrifiadurol effeithiol ac yn defnyddio modelau cyfrifiadol a rhaglennu a dderbynnir. Byddwch yn dadansoddi, datblygu a gwerthuso algorithmau a chod cyfrifiadurol, ac yn cynnig ac yn defnyddio datrysiadau i sicrhau bod systemau cyfrifiadurol yn addas i’r diben. Byddwch yn dysgu sut i greu cod mewn C++, C#, a Javascript gan ddefnyddio ystod o blatfformau datblygu. 


Uned 7: Diogelwch Systemau TG ac Amgryptio – Asesiadau Mewnol

Bydd dysgwyr yn dysgu am fygythiadau i ddiogelwch systemau TG a’r dulliau a ddefnyddir i warchod rhagddynt. Bydd dysgwyr yn cwblhau gweithgareddau i ddiogelu systemau TG rhag bygythiadau diogelwch, gan gynnwys amgryptio data.

Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn ymchwilio i wahanol fathau o ymosodiad diogelwch, unrhyw fregusrwydd sy’n bodoli a thechnegau y gellir eu defnyddio i warchod systemau TG sefydliadau. Byddwch yn dysgu am gymhlethdodau cyflunio a chefnogi’r rhwydweithiau hyn, a byddwch hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio amgryptio er mwyn diogelu data. Byddwch yn cynllunio ac yn defnyddio dulliau diogelu priodol ar gyfer system TG a’u profi i sicrhau bod y diogelwch yn effeithiol. Byddwch yn cyflunio gosodiadau rheoli mynediad system TG i reoli mynediad defnyddwyr i wahanol adnoddau system TG, gan gynnwys ffeiliau, ffolderi ac argraffwyr.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2025

Dyddiad gorffen

23 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GECC3NF4
L3

Cymhwyster

BTEC Computing

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i ddilyn cwrs Tystysgrif Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Cyfrifiadureg.

Mae’r cymhwyster hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gallu ystyried cyflogaeth mewn swydd lefel mynediad yn y diwydiant cyfrifiadureg, addysg a’r gwasanaeth sifil. Mae’r cymhwyster yn ddeniadol i nifer o gyflogwyr o ganlyniad i’r sgiliau allweddol trosglwyddadwy a ddysgir, gan gynnwys meddwl critigol a sgiliau seiberddiogelwch.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE