Estynedig BTEC Cenedlaethol - Bioleg Ddynol Gymhwysol

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen astudio eang ar gyfer y sector gwyddor iechyd.

Mae wedi’i ddylunio i gefnogi dilyniant at addysg uwch pan gaiff ei gwblhau fel rhan o raglen astudio sy’n cynnwys Tystysgrifau Cenedlaethol BTEC neu gyrsiau Safon Uwch perthnasol eraill.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Dros gyfnod o ddwy flynedd byddwch yn astudio ystod o unedau sy’n cyfrannu at ystod eang o ddealltwriaeth yn ymwneud â gwyddor iechyd.

Blwyddyn 1:

Uned 1 - Egwyddorion Bioleg Ddynol Gymhwysol (arholiad)

Uned 2 - Microbioleg Ymarferol a Chlefydau Heintus (gwaith cwrs)

Blwyddyn 2:

Uned 3 - Bioleg Ddynol a Materion Iechyd (arholiad)

Un uned gwaith cwrs arall; bydd hwn yn cael ei gadarnhau yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs. Bydd yr Uned yn un o’r canlynol:

Uned 4 - Ffisioleg Weithredol

Uned 6 - Geneteg a Pheirianneg Genetig

Uned 7 - Gwyddor Biofeddygol

Uned 8 - Atgenhedlu Dynol a Ffrwythlondeb

Dulliau addysgu ac asesu

Asesir y cwrs drwy gyfuniad o asesiadau mewnol ac allanol.

Asesiad Mewnol:

Mae unedau a asesir yn fewnol yn cynnwys 3-4 aseiniad gwaith cwrs a gwblheir yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd pob aseiniad yn ymdrin â phwnc gwahanol o fewn yr uned. Rhaid cyflwyno pob aseiniad drwy Microsoft Teams erbyn y dyddiadau cau cyhoeddedig er mwyn iddynt fod yn ddilys.

Asesiad allanol:

Asesir Uned 1 drwy arholiad ysgrifenedig ym mis Mai Blwyddyn 1 ac mae’n asesu dealltwriaeth y dysgwr o fioleg ddynol gymhwysol.
Mae Uned 3 yn ‘dasg osod’ a asesir ym mis Mai Blwyddyn 2. Caiff dysgwyr eu darparu â deunydd darllen cyn ateb cyfuniad o gwestiynau estynedig yn seiliedig ar y pwnc a gyflwynwyd.

Cyfleusterau

Profiad labordy mewn microbioleg a geneteg.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GECC3SF8
L3

Cymhwyster

Pearson BTEC Tystysgrif Estynedig Genedlaethol Lefel 3 mewn Bioleg Ddynol Gymhwysol

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch (UG mewn Mathemateg, Economeg a Busnes) a Swyddog Sabothol Undeb y Myfyrwyr

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Addas ar gyfer symud ymlaen i astudiaeth bellach yn ymwneud â gwyddor iechyd / gofal iechyd.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE