Bioleg - UG
Ynglŷn â'r cwrs
Mae'r rhaglen Safon UG Bioleg hon yn gwrs astudio o un flwyddyn, sy'n dilyn manyldeb CBAC ac yn cynnwys dwy uned ysgrifenedig:
- Uned 1: Biocemeg Sylfaenol a Threfniadaeth Celloedd
- Uned 2: Bioamrywiaeth a Ffisioleg Systemau'r Corff
Beth fyddwch yn ei astudio?
Uned 1: Biocemeg Sylfaenol a Threfniadaeth Celloedd
- Cyfansoddion biolegol
- Strwythur celloedd
- Cellbilenni a chludiant
- Ensymau
- DNA ac etifeddiaeth
Arholiad allanol Mehefin - 1awr 30m papur ysgrifenedig
Uned 2: Bioamrywiaeth a Ffisioleg Systemau'r Corff
- Esblygiad
- Cyfnewid nwyon
- Mecanweithiau Cludiant
- Maeth
Arholiad allanol Mehefin - 1awr 30m papur ysgrifenedig
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Arholiad : £60.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £30.00
Ffi Cwrs: £430.00
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Gradd B mewn TGAU Bioleg neu BB mewn TGAU Gwyddoniaeth Ddwbl
Amseroedd cwrs
17:45-20:45 Dydd Llun
Addysgu ac Asesu
- Dau arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd.
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Biocemeg
- Strwythur a Swyddogaeth Celloedd
- Materion Amgylcheddol
- Tirwedd a Bioamrywiaeth
- Ecoleg Cynefinoedd
- Ffisioleg Ddynol
- Ecoleg Forol a Daearol
- Meddygaeth
- Methodoleg
- Foleciwlaidd ar gyfer Biolegwyr
- Gwyddor Planhigion
- Egwyddorion Geneteg
Angen gwybod
Ein Rhaglen Ysgolheigion Safon Uwch
Cefnogaeth Dysgu