Celf - A2
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Celf a Dylunio A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru.
Mae’r cwrs yn galluogi dysgwyr i ymchwilio uned benodol o Ymchwiliad Creadigol Personol yn fewnol, a bydd yn datblygu eu sgiliau mewn dealltwriaeth gyd-destunol, creu creadigol, cofnodi myfyriol a chyflwyniad personol.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Bydd yr ymgeisydd yn archwilio thema gyffredinol trwy ymchwil hanesyddol a chyfoes i hysbysu dealltwriaeth a syniadau sydd yna'n addas i arbrofi ac archwilio creadigol. Bydd myfyrwyr yn mabwysiadu sgiliau dysgu adfyfyriol cyson, gan eu galluogi i esbonio, dadansoddi a chyfiawnhau eu gwaith yn weledol, ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â’i berthynas i waith eraill, gan gynhyrchu ymateb personol i alwadau'r cyfarwyddyd.
Bydd disgwyl i unigolion brynu dyddlyfr gwaith A3 a chwblhau o leiaf 5 awr o astudio dan ei gyfarwyddyd ei hun yr wythnos.
Gofynion mynediad
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Addysgu ac Asesu
- Aseiniad ac asesiad ar ddiwedd y flwyddyn
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Celf
- Ffilm a
- Ffotograffiaeth
- Ysgrifennu Creadigol
- Astudiaethau Dylunio
- Drama
- Celfyddyd Gain
- Dylunio Graffeg
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu