Tystysgrif Estynedig BTEC Seicoleg Gymhwysol

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 23 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs yn gyflwyniad rhagorol i seicoleg gymhwysol, sy’n galluogi myfyrwyr i ystyried ei phwysigrwydd ar draws sawl agwedd ar ein bywydau, gan gynnwys cymwysiadau ymarferol.

Mae cymhwyster seicoleg yn galluogi'r dysgwr i ddatblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy fel meddwl critigol ac ysgrifennu ochr yn ochr â mynediad i ystod eang o yrfaoedd, o gwnsela a therapi i waith fforensig a’r gyfraith.

Cynhelir asesiadau ar ffurf un asesiad mewnol ac un asesiad allanol bob blwyddyn ac mae pynciau a astudir yn cynnwys Seicoleg Iechyd a Seicoleg Fforensig a Throseddeg.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Uned 3 – Seicoleg Iechyd
Asesiad allanol: arholiad ysgrifenedig 2 awr

Mae gan seicolegwyr iechyd ddiddordeb mewn sut y gall ffactorau seicolegol a ffisegol effeithio ar iechyd ac afiechyd. Mae’r uned hon yn cynnwys dulliau, damcaniaethau ac astudiaethau sy’n archwilio’r rhesymau pam mae unigolion yn ymddwyn mewn ffyrdd penodol, fel mynd yn gaeth, a pham mae unigolion yn profi lefelau uchel o straen a’r effaith mae hyn yn ei chael ar iechyd. Yn ogystal â hyn, mae’r uned yn archwilio sut y gall seicolegwyr iechyd wella ymddygiadau iechyd gan ddefnyddio damcaniaethau seicolegol perswadio a dysgu am driniaethau seicolegol ac ymddygiadol.

Uned 4 – Seicoleg Droseddol a Fforensig

Asesiad mewnol – Asesiad ysgrifenedig yn cynnwys 3 adroddiad

Ydy pobl yn cael eu geni yn droseddwyr neu’n troi yn droseddwyr? Mae’r uned hon yn ystyried nifer o wahanol esboniadau am ymddygiad troseddol, yn cysylltu â’r dulliau o uned 1, ac yn dadansoddi’r ffordd orau o drin ymddygiad troseddol; cosbi neu addasu? Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu am wahanol ffyrdd o greu proffil troseddwr ar-lein a byddant yn creu eu proffil eu hunain fel rhan o’r aseiniad terfynol.

Gofynion mynediad

5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddoniaeth Ddwbwl. Dylai Mathemateg a Gwyddoniaeth fod yn Radd B neu uwch.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

23 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GECC3SF1
L3

Cymhwyster

Applied Psychology

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i astudio cyrsiau megis BA/BSc Seicoleg, Gwyddorau Dynol, Cwnsela, Marchnata neu Droseddeg.

Mae’r cymhwyster hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn ystyried cyflogaeth o fewn agweddau penodol o’r system gyfiawnder troseddol, marchnata, addysg a’r gwasanaeth sifil. Mae’r cymhwyster yn ddeniadol i nifer o gyflogwyr o ganlyniad i’r sgiliau allweddol trosglwyddadwy a ddysgir, megis ysgrifennu a meddwl critigol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE