Hanes Hynafol - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y cymhwyster Safon Uwch lefel 3 hwn yn galluogi dysgwyr i astudio’r byd hynafol dros gyfnod o ddwy flynedd. Bydd hyn yn galluogi’r dysgwr i ymgysylltu’n gritigol â’r gorffennol hynafol o ran digwyddiadau hanesyddol a gweithiau llenyddol pwysig. Gan nad yw Hanes Hynafol yn cael ei astudio ar raddfa eang yng Nghymru, bydd hyn yn rhoi cyfle i’r coleg gynnig cwrs na fyddai dysgwyr yn cael y cyfle i’w gymryd fel arall. Mae hefyd yn rhoi opsiwn amgen/arall i’r cymhwyster Safon Uwch yn y Clasuron sydd eisoes yn cael ei gynnig yma. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r Unedau UG o astudio yn gofyn i ddysgwyr ymgymryd ag astudiaeth o Wlad Groeg a Rhufain fel ei gilydd.

Uned 1 H007/01: Perthnasau rhwng stadau Groegaidd a rhwng rhai Groegaidd a stadau nad ydynt yn Roegaidd492–404 CC. (addysgir ym mlwyddyn 1).

Bydd yr astudiaeth gyfnod hon yn canolbwyntio ar y naratif sy’n amlygu o’r perthnasau rhwng y stadau Groegaidd dinesig, yn enwedig Athens a Sparta, a rhwng stadau dinesig Groegaidd a’r Ymerodraeth Bersiaidd yn ystod y cyfnod 492–404 CC. Bydd dysgwyr yn dysgu am y newidiadau mewn perthnasau rhwng stadau a’r datblygiadau sylweddol mewn perthnasau rhwng stadau, rhwng stadau Groegaidd a stadau nad ydynt yn Roegaidd. Bydd dysgwyr yn astudio’r prif ddigwyddiadau a materion er mwyn deall sut y gwnaeth y rhain siapio’r digwyddiadau hyn.

Asesiad: 60 marc 1 awr 30 munud Papur ysgrifenedig 50% o’r cymhwyster Lefel UG cyfan.

H007/02: Ymerawdwyr Julio-Claud, 31 CC-OC 68 (addysgir ym mlwyddyn 1).

Bydd yr astudiaeth gyfnod hon yn canolbwyntio ar y naratif yn amlygu o ran sefydliad a datblygiad y dywysogaeth o dan Augustus, Tiberius, Gaius, Claudius a Nero. Bydd pwyslais benodol ar lwyddiannau milwrol, cymdeithasol a gwleidyddol yr ymerawdwyr a’r driniaeth ohonynt gan y ffynonellau hynafol.

Asesiad 60 marc 1 awr 30 munud Papur ysgrifenedig 50% o’r cymhwyster Lefel UG cyfan.

Cynnwys Blwyddyn A2

H407/13: Esgyniad Macedon, c. 359–323 BC (addysgir ym mlwyddyn 2)

Mae’r astudiaeth ddofn hon yn canolbwyntio ar y cydadwaith o ffactorau gwleidyddol, milwrol, cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a chrefyddol a gyfrannodd at esgyniad cyflym Macedonia i amlygrwydd o 359 BC. Mae pwyslais arbennig ar Philip ac o ganlyniad mae hyn yn gosod ymgyrchoedd Alexander mewn cyd-destun mwy llawn. Drwy wneud hyn bydd dysgwyr yn cael cipolwg ar y ffactorau a’r credoau a gymhellodd dau o’r dynion mwyaf adnabyddus mewn hanes hynafol. Mae rhyngberthynas rhwng y pynciau yn yr astudiaeth ddofn hon, ac anogir dysgwyr i weld y cysylltiadau rhwng gwahanol bynciau er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r cyfnod.

Astudiaeth ddofn o H407/22: The Flavians, OC 68–96. (addysgir yn ystod blwyddyn 2)

Mae’r astudiaeth fanwl hon yn canolbwyntio ar y cydadwaith ffactorau gwleidyddol, milwrol, cymdeithasol, economaidd a chrefyddol a effeithiodd ar deyrnasiadau y llinachau Fflafaidd a arweiniodd at wahanol fath o linach i’r un a ddaeth gyn y llinach Julio-Claud. Mae rhyngberthynas rhwng y pynciau yn yr astudiaeth ddofn hon, a dylid annog dysgwyr i weld y cysylltiadau rhwng gwahanol bynciau er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r cyfnod

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F61
L3

Cymhwyster

OCR TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Hanes yr Henfyd

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Rydw i’n bendant yn credu bod y Coleg wedi fy helpu i gyflawni fy nodau. Mae wedi bod yn amgylchedd dysgu cefnogol a gwych. Rydw i wedi mwynhau astudio fy holl gyrsiau yn fawr. Rydw i'n credu ei fod yn amgylchedd braf iawn i astudio ynddo.”

Oscar Griffin
Astudio cyrsiau Safon Uwch yn y Clasuron, Llenyddiaeth Saesneg a Hanes

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys pwyntiau UCAS a chaiff ei astudio gyfochr â chymwysterau eraill, fel rhan o raglen ddysgu dwy flynedd, ac yna, mae'n cael ei gydnabod gan ddarparwyr addysg uwch fel cyfraniad at fodloni gofynion mynediad ar gyfer nifer o gyrsiau.

Gall y cymhwyster gefnogi unigolyn i ddilyn cyrsiau addysg uwch, a bydd cyrsiau eraill sy'n cael eu dilyn yn cael eu hystyried.  Hefyd, gall y cymhwyster arwain at gyflogaeth uniongyrchol neu brentisiaeth. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE