Awyrofod yw un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, gyda chyfleoedd cyffrous i weithio yng Nghymru a ledled y byd. Mae'r sector wedi gweld twf cyson yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cefnogi nifer cynyddol o swyddi medrus o werth uchel. Os oes gennych frwdfrydedd dros awyrennau, neu os ydych yn syml yn dymuno datblygu i fod yn beiriannydd gyda sgiliau peirianneg eang ac amrywiol y gellir eu cymhwyso ar draws ystod eang o ddiwydiannau, yna hwn yw’r cwrs cywir i chi.
Mae'r cwrs yn ymdrin â:
Mae'r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau rhoi gwybodaeth i grwpiau cyfan, gweithdai, tiwtorialau, gwaith ymarferol, a beirniadaeth grŵp ac e-ddysgu cyfunol.
Lle bo’n bosib, mae elfen asesu’r cwrs wedi’i dylunio i efelychu’r amrywiaeth o dasgau y gall graddedigion y rhaglen ddod ar eu traws mewn cyflogaeth berthnasol. Defnyddir dulliau asesu academaidd eraill hefyd, megis arholiad ffurfiol, lle bo’n angenrheidiol.
Bydd y gwaith ymarferol yn adlewyrchu technegau'r byd go iawn y byddai ymarferwyr yn dod ar eu traws yn y diwydiant cyfrifiadura.
Ffioedd Dysgu: £6,000.00
Dau lefel A gan gynnwys Mathemateg a phwnc technegol arall, (Ffiseg fel arfer). Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 neu Ddiploma Estynedig mewn pwnc priodol. Gall cymwysterau lefel 3 eraill fod yn dderbyniol.
Dau lefel A gan gynnwys Mathemateg a phwnc technegol arall, (Ffiseg fel arfer). Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 neu Ddiploma Estynedig mewn pwnc priodol. Gall cymwysterau lefel 3 eraill fod yn dderbyniol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Yr hyn a ddaliodd fy llygad ynghylch Coleg Caerdydd a’r Fro oedd y cyfleusterau arbennig yn y Llwybr Hyfforddiant Academaidd Clinigol Integredig a’r meintiau dosbarth llai. Mae gen i’r gallu i dreulio amser un i un gyda’r darlithwyr, sydd yn eithriadol o amyneddgar, ac yn eich helpu i ddeall y gwaith sy’n cael ei wneud. Mae derbyn y profiad hwnnw gyda phobl sydd â’r fath gyfoeth gwybodaeth am y diwydiant yn amrhisiadwy. Ers gadael Coleg Caerdydd a’r Fro, rwyf wedi cwblhau fy ngradd gyda Phrifysgol Kingston, ac wedi dechrau swydd gyda Babcock fel peiriannydd dylunio mecanyddol yn eu hadran systemau cenhadaeth yn gweithio ar longau tanfor. Nawr, mae’r wybodaeth a ddysgais yn fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Fro yn cael ei ddefnyddio wrth weithio.
Wedi cwblhau'r HNC yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i’n cwrs Peirianneg Awyrennau HND.