Drwy astudio ein cwrs Sgiliau Llaw Mecanyddol Sylfaenol Peirianneg Awyrofod, byddwch yn magu'r sgiliau mainc gweithdy er mwyn gallu dod o hyd i waith yn y dyfodol! Yn ystod y cwrs, byddwch yn cwblhau prosiect ymarferol, ac yn dysgu am y ffyrdd diogel o ddefnyddio offer llaw a driliau piler. Wrth gwblhau'r prosiect, byddwch yn dysgu nifer o sgiliau ymarferol megis darllen darluniadau, marcio, llifio, llyfnu, drilio a defnyddio offer torri mewnol ac allanol.
Byddwch yn gwella eich sgiliau mainc ymarferol ac yn dysgu sut i ddefnyddio'r ymarferiad yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Amcanion y cwrs
Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn gallu:
Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i ategu'r cwrs Sgiliau Llaw Uwch ac mae'n addas i chi, os ydych eisoes yn gwneud gweithgareddau cynnal a chadw.
Mae'r cwrs Sgiliau Peirianneg yn dechrau gyda sesiwn atgoffa gryno o'r materion Iechyd a Diogelwch sy'n gysylltiedig â gweithio mewn gweithdy peirianneg. Yna dangosir i ymgeiswyr sut mae defnyddio ystod o offer mesur megis prennau mesur dur, caliperau fernier, micromedr a medryddion deial. Mae ymarferion ymarferol wedi cael eu paratoi sy'n gofyn i ymgeiswyr bennu darlleniadau fernier enghreifftiol amrywiol, gan brofi bod yr offer yn cael eu dehongli'n gywir.
Yn ystod y cwrs, edrychir ar ddyluniadau peirianneg ac fe'u gwerthusir i bennu pa system o daflunio dyluniadau sydd wedi cael ei defnyddio (taflunio ongl gyntaf neu daflunio trydedd ongl). Mae'r canlynol yn rhai tudalennau enghreifftiol o'r nodiadau cwrs ar gyfer y cam hwn o'r cwrs gosod, sy'n disgrifio sut mae medryddion arwyneb yn cael eu defnyddio i farcio allan yn gywir, sut mae dyluniadau peirianneg yn darlunio cydrannau mecanyddol yn y tafluniadau amrywiol a sut y dylid marcio tyllau allan ar gyfer manwl gywirdeb:
Enghreifftiau o nodiadau
"Mae hyn yn ein harwain at nifer o ymarferion marcio allan ar gydrannau alwminiwm a dur arian. Rydym yn defnyddio cwmpawdau mesur, medryddion arwyneb a chaliperau (ymhlith offer eraill) ar gyfer hyn.
Mae'n rhaid torri a llyfnhau cydrannau metel gan ddefnyddio offer llaw i greu ymylon datwm. Rydym yn defnyddio sgrifelli, pynsiau, llifiau, morthwylion a rhathellau (ymhlith offer eraill) ar gyfer hyn.
Mae'n rhaid marcio tyllau allan yn gywir a'u drilio a thapio yn ddiweddarach gydag edefion metrig. Ar ôl rhoi'r cydrannau wedi'u gweithgynhyrchu at ei gilydd, mae'n rhaid lledu rhai tyllau i sicrhau ffit sy'n dda yn beirianyddol â'r hoelbrennau lleoli dur a lifanwyd. Nod yr ymarfer yw cynhyrchu darn prawf y gall yr ymgeiswyr ei ddefnyddio yn y gweithle ar gyfer alinio siafft. Bydd gweithgynhyrchu'r darn prawf alinio yn cymryd sawl awr i'w gwblhau, ac mae'n rhoi'r sgiliau dehongli dyluniadau ac offer llaw a enillwyd yn flaenorol ar waith. Fodd bynnag, mae'n rhaid i bob ymgeisydd gynhyrchu eitem orffenedig sy'n cydymffurfio â'r diagram.
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £51.70
Byddai cefndir mewn Peirianneg yn ddelfrydol. Angen i ymgeisydd fod yn ymrwymedig, uchelgeisiol a chynnal cyfweliad llwyddiannus
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Yr hyn a ddaliodd fy llygad ynghylch Coleg Caerdydd a’r Fro oedd y cyfleusterau arbennig yn y Llwybr Hyfforddiant Academaidd Clinigol Integredig a’r meintiau dosbarth llai. Mae gen i’r gallu i dreulio amser un i un gyda’r darlithwyr, sydd yn eithriadol o amyneddgar, ac yn eich helpu i ddeall y gwaith sy’n cael ei wneud. Mae derbyn y profiad hwnnw gyda phobl sydd â’r fath gyfoeth gwybodaeth am y diwydiant yn amrhisiadwy. Ers gadael Coleg Caerdydd a’r Fro, rwyf wedi cwblhau fy ngradd gyda Phrifysgol Kingston, ac wedi dechrau swydd gyda Babcock fel peiriannydd dylunio mecanyddol yn eu hadran systemau cenhadaeth yn gweithio ar longau tanfor. Nawr, mae’r wybodaeth a ddysgais yn fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Fro yn cael ei ddefnyddio wrth weithio.