A oes gennych chi angerdd dros chwarae gemau? Hwn yw'r cwrs i chi! Ar y cwrs hwn gallwch ddisgwyl defnyddio offer gemau safonol gan gynnwys: cyfrifiaduron gemau, cadeiriau, llygoden, bysellfwrdd a systemau sain. Byddwch hefyd yn dysgu defnyddio offer golygu fideo a sain. Bydd gennych y cyfle i chwarae fel rhan o dîm cystadleuol a chymryd rhan mewn cystadlaethau.
Mae hwn yn faes twf ar gyfer cyflogaeth ac yn arwain at gyfleoedd mewn marchnata, rheoli digwyddiadau, creu digidol, dylunio gwe, cysylltiadau cyhoeddus a diwydiannau cysylltiedig â gemau. Bydd amser chwarae gemau yn cael ei gynnwys yn y cwrs i ddatblygu sgiliau, strategaethau a dadansoddi.
Mae ein cwrs Esports yn gwrs Diploma BTEC Lefel 2 dwy flynedd o hyd mewn E-sports ac mae'n cyfateb i ddwy radd Safon Uwch. Gydag ychwanegiad Bagloriaeth Cymru, mae'r cymhwyster hwn yn cyfateb i 3 Lefel A ar ôl cwlbhau'r rhaglen dwy flynedd.
Cyflwynir y cwrs hwn ar Gampws Canol y Ddinas.
Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio unedau gan gynnwys:
Blwyddyn 1:
Blwyddyn 2:
5 TGAU Graddau A* - C gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Esports Lefel 2 gyda phroffil teilyngdod a TGAU Gradd A*-C Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth). Bydd angen IELTS o 6.5 neu uwch ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae angen cit gorfodol o tua £80 ar gyfer crysau T a hwdi y gellir ei brynu gan Macron.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dilyniant i Fusnes HND yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro neu gyflogaeth.
Mae astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi fy ngalluogi i symud ymlaen at rywbeth nad oeddwn i’n meddwl y gallwn ei wneud. Fe’n helpodd i i astudio cwrs Chwaraeon Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Nottingham Trent, gan ehangu fy ngorwelion ar yr hyn y gallwn ei wneud yn y dyfodol, a’m gosod ar y llwybr cywir i allu gweithio mewn Chwaraeon Cyfrifiadurol a’i ddilyn fel gyrfa, sy’n fy nghyffroi’n fawr. Rwyf yn teimlo’n angerddol iawn ynghylch Chwaraeon Cyfrifiadurol, ac rwyf wedi gallu gwireddu fy mreuddwydion diolch i’r gefnogaeth a dderbyniais gan y Coleg.