Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sydd naill ai heb wybodaeth flaenorol neu sydd wedi gweithio mewn amgylchedd cyflogres heb gymhwyster cyflogres achrededig, ac sy’n dymuno cael cyflwyniad i brosesu cyflogres yn defnyddio meddalwedd cyflogres sydd ar gael yn fasnachol ac ennill cymhwyster ffurfiol. Bydd y cymhwyster yn amhrisiadwy fel llwyfan cychwynnol i ddysgwyr sy’n ystyried gyrfa fel ymarferwyr hunangyflogedig, yn ogystal â pherchnogion busnes sy’n dymuno cymryd rhan weithredol mewn casglu a phrosesu data cyflogres a chadw cofnodion cyflogres ar gyfer y busnes.
Nod y cymhwyster hwn yw darparu dysgwyr ag ystod gynhwysfawr o wybodaeth a sgiliau a ddefnyddir fel prosesydd cyflogres ar gyfer busnesau amrywiol. Ar ôl llwyddo i gwblhau, bydd y dysgwr wedi cael profiad o gwrs sy’n:
Ffi Arholiad : £20.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £100.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.