Cyfrifon Cyfrifiadurol

L2 Lefel 2
Rhan Amser
17 Hydref 2024 — 12 Rhagfyr 2024
Campws y Barri
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cymhwyster hwn yn addas i rai sy'n dymuno dysgu hanfodion y pecyn cyfrifeg SAGE. Mae'r cwrs wedi ei anelu at rai sydd eisiau bod mewn swydd cyfrifeg.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n astudio Tystysgrif Lefel 2 AAT PLA mewn Cadw Cyfrifon.

Bydd dysgwyr yn ennill Tystysgrif Lefel 2 Agored Cymru mewn Cyfrifon Cyfrifiadurol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Rhestr o feysydd a astudir: 

  • manylion ymwelwyr a chyflenwyr,
  • creu cynnyrch,
  • cael mynediad i fantolen brawf agored
  • prosesu anfonebau cyflenwyr
  • cyflwyno sieciau,
  • gwirio balansau cyfrifon,
  • prosesu anfonebau cyflenwyr
  • gwirio lefelau stoc,
  • derbyn taliadau,
  • prosesu nodiadau credyd,
  • argraffu olion archwiliadau ac adroddiadau balansau arbrofol
  • newid dyddiadau rhaglen,
  • darparu cyfyngiadau credyd
  • diwygio cofnodion,
  • newid cofnodion,
  • talu cyfrifon,
  • iechyd a diogelwch.

Bydd angen i'r dysgwyr gyflawni'r cymhwyster ar safle gan fod angen defnyddio meddalwedd SAGE.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £60.00

Ffi Arholiad : £20.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Gofynion mynediad

Safon dda o lythrennedd a rhifedd (yn ddelfrydol, gradd C neu uwch ar lefel TGAU). Profiad ymarferol cyfredol (neu ddiweddar).

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

17 Hydref 2024

Dyddiad gorffen

12 Rhagfyr 2024

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

BSCR2P81
L2

Cymhwyster

CP72WN001 Introduction to Computerised Accounts

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs gallwch symud ymlaen at:

  • Dystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 mewn Cadw Cyfrifon
  • Dystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 mewn Cyfrifeg

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ