Tystysgrif Sylfaen AAT mewn Cadw Cyfrifon

L2 Lefel 2
Rhan Amser
7 Ionawr 2025 — 20 Mai 2025
Campws y Barri
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs Sylfaen AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) hwn yn gymhwyster cadw cyfrifon lefel mynediad, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gyflwyniad i hanfodion a sgiliau sylfaenol y maes. Mae'r cwrs hyblyg hwn wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Mindful Education. 

Mae darlithoedd fideo ar-lein ar gael ar alw, a gellir eu gwylio o’ch ffôn, llechen neu gyfrifiadur, felly cewch ddewis sut, pryd a lle rydych eisiau astudio. Mae bob gwers yn para tua 45 munud ac yn cynnwys animeiddiadau a graffeg symudol i ddod â chysyniadau yn fyw. Mae ymarferion, astudiaethau achos rhyngweithiol ac offer dadansoddi yn helpu i gyfoethogi'r profiad dysgu ymhellach.

Bydd y tiwtor yn darparu cymorth, arweiniad ar gynydd ac asesiadau.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs byr hwn, a astudir dros bedwar mis, yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i reoli cyfrifon yn effeithiol - gan gynnwys cadw cyfrifon cofnod dwbl, a dogfennau a phrosesau cysylltiedig, hyd at safon Mantolen Brawf.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn cael Tystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 mewn Cadw Cyfrifon. Mae'r cymhwyster AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) hwn, a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn galluogi'r rhai sy'n gweithio ym maes cyfrifeg neu sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a'r ardystiad hollbwysig sy'n aml yn ofynnol gan gyflogwyr.


Gellir defnyddio’r cymhwyster hwn fel llwybr cyflym i Ddiploma Uwch yr AAT mewn Cyfrifeg.


Unedau Astudio
Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon
Deilliannau dysgu:


Deall trafodion ariannol o fewn system cadw cyfrifon
Prosesu trafodion cwsmeriaid
Prosesu trafodion cyflenwyr
Prosesu derbynebau a thaliadau
Prosesu trafodion drwy’r cyfriflyfrau hyd at y fantolen brawf
Deall rheolaethau mewn system cadw cyfrifon
Defnyddio cyfrifon rheoli
Defnyddio’r dyddlyfr
Cysoni cyfriflen banc gyda'r llyfr arian parod
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu busnes a dysgu gydol oes, ac yn cymhwyso'r hyn rydych yn ei ddysgu ar y cwrs i'r cyd-destun diwydiant ehangach.
Caiff y cwrs hwn ei asesu drwy ddau arholiad ar gyfrifiadur, sef un ar ddiwedd bob uned.


Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i lefelau uwch y Cymhwyster Cyfrifeg AAT (Lefel 3 ac yna ymlaen i Lefel 4).
Efallai y bydd myfyrwyr sy'n cwblhau Tystysgrif Uwch yr AAT mewn Cadw Cyfrifon yn dymuno symud ymlaen i gwblhau Tystysgrif Sylfaen lawn yr AAT mewn Cyfrifeg. Os byddwch yn dewis parhau â'ch astudiaethau yn y ffordd hon, bydd eich cyflawniadau yn y cymhwyster Cadw Cyfrifon yn cael eu trosglwyddo i'r cymhwyster Cyfrifeg hirach. 
Cyfleoedd gyrfaol


Bydd y sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu meithrin drwy'r cymhwyster hwn yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer swyddi megis Cynorthwyydd Clercyddol, Ceidwad Cyfrifon dan Hyfforddiant, Clerc Cyfrifon, Cynorthwyydd Cyllid a Gweinyddwr Cyfrifon.


Gwybodaeth ychwanegol

*Ffioedd cofrestru dysgwyr i’w talu’n uniongyrchol i’r AAT, yn ychwanegol at y Ffioedd Cwrs. Mae’r rhain yn amodol ar newid gan yr AAT ym mis Awst


Ffioedd Cofrestru 2023/24 


Lefel 2 Cadw Cyfrifon = £66

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £350.00

Ffi Arholiad : £125.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

7 Ionawr 2025

Dyddiad gorffen

20 Mai 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

BSCR2P91
L2

Cymhwyster

AAT Level 2 Certificate in Bookkeeping

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ