Mae Tystysgrif yr AAT mewn Cyfrifeg yn ymdrin ag ystod o sgiliau cyfrifeg a chyllid sylfaenol mewn pedair uned orfodol.
Diben y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi'n dda i fynd ymlaen i yrfa mewn busnes, cyllid neu gyfrifeg broffesiynol neu addysg bellach.
Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
Mae’r uned hon yn darparu dealltwriaeth i fyfyrwyr o systemau cadw cyfrifon digidol ac â llaw, gan gynnwys y prosesau a’r dogfennau cysylltiedig. Bydd myfyrwyr yn dysgu am yr egwyddorion sylfaenol sy’n sail i’r system cadw cyfrifon cofnod dwbl, a bod systemau cyfrifeg digidol yn awtomeiddio rhai camau o fewn y broses.
Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon
Mae’r uned hon yn ychwanegu at y wybodaeth a’r sgiliau a gafwyd o astudio Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon, ac mae’n edrych ar gyfrifon rheoli, cyfnodolion a chysoniadau. Bydd myfyrwyr yn edrych ar nifer o brosesau a ddefnyddir ym maes cadw cyfrifon sy’n helpu i wirio a dilysu’r cofnodion a wneir. Mae’r prosesau hyn yn galluogi’r myfyriwr i ddeall pwrpas cyfrifon rheoli a chysoniadau cysylltiedig. Bydd myfyrwyr hefyd yn deall pam y defnyddir y cyfnodolyn hyd at ailddrafftio’r fantolen brawf, ar ôl gwneud addasiadau dechreuol.
Egwyddorion Costio
Mae’r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion costio sylfaenol ac yn meithrin sylfaen gadarn o ran y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer costio mwy cymhleth a chyfrifeg rheoli. Bydd myfyrwyr yn dysgu am bwysigrwydd y system gostio fel ffynhonnell wybodaeth sy’n galluogi rheolwyr i gynllunio, gwneud penderfyniadau a rheoli costau. O safbwynt busnes, dylai myfyrwyr ddeall y prif wahaniaethau rhwng costio a chyfrifeg ariannol.
Yr Amgylchedd Busnes
Mae’r amgylchedd busnes yn ddeinamig ac yn newid yn sylweddol wrth i’r oes ddigidol symud ymlaen i hwyluso natur fyd-eang busnes. Mae’n hanfodol fod myfyrwyr yn ymwybodol o’r effaith y mae’r amgylchedd hwn yn ei chael ar sefydliadau, o unig fasnachwyr i gwmnïau mawr sy’n gweithredu mewn marchnadoedd lleol, cenedlaethol a byd-eang, a’u bod yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i’w galluogi nhw i weithio’n effeithiol.
Ffi Arholiad : £275.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £785.00
4 TGAU gradd A*- C neu L2 ESOL neu IELTS 6.5. Bydd angen i chi fynychu cyfweliad ac ymgymryd ag asesiad sgiliau. Bydd dysgwyr aeddfed yn cael asesiad Iaith Saesneg a Mathemateg.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.