Mae Diploma yr AAT mewn Cyfrifeg yn ymdrin ag ystod o sgiliau cyfrifeg a chyllid mewn pedair uned orfodol. Mae'r cwrs AAT (Association of Accounting Technicians) lefel uwch hwn yn gymhwyster cyfrifeg lefel ganolig, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddatblygu'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes am gyfrifeg.
Ymwybyddiaeth o Fusnes
Mae’r uned hon yn darparu dealltwriaeth o’r busnes, ei amgylchedd a’r dylanwad y mae hyn yn ei gael ar strwythur sefydliad, ei swyddogaeth gyfrifyddu a’i berfformiad. Bydd myfyrwyr yn edrych ar y mathau o fusnesau sy’n bodoli a dibenion busnesau, yn ogystal â hawliau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid allweddol. Bydd myfyrwyr yn dysgu am yr amgylcheddau micro- a macro-economaidd a’r effaith a’r dylanwad y gall newidiadau yn yr amgylcheddau hyn eu cael ar berfformiad a phenderfyniadau. Bydd hyn yn cynnwys dealltwriaeth o’r gyfraith fusnes sylfaenol sy’n berthnasol i baratoi datganiadau ariannol ar gyfer gwahanol fathau o endidau. Bydd myfyrwyr yn dysgu am gysyniadau risgiau, mathau o risgiau a rheoli risgiau ar gyfer busnes. Bydd myfyrwyr yn deall pwysigrwydd moeseg broffesiynol a rheolaeth foesegol, a sut mae’r swyddogaeth ariannol yn rhyngweithio â swyddogaethau allweddol eraill yn y busnes i wella effeithlonrwydd gweithredol. Bydd myfyrwyr yn dysgu am yr agweddau craidd ar y cod moesegol ar gyfer cyfrifwyr, a byddant yn defnyddio’r egwyddorion hyn i ddadansoddi a beirniadu sefyllfaoedd moesegol a allai godi yn y gweithle. Byddant hefyd yn deall sut mae ymddwyn yn foesegol yn tarddu o werthoedd sefydliadol a phersonol craidd, yn ogystal â deall y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol ar gyfer atal gwyngalchu arian.
Cyfrifyddu Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol
Mae’r uned hon yn darparu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gynhyrchu datganiadau elw neu golled a datganiadau sefyllfa ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau sy’n defnyddio mantolen brawf. Mewn cyflogaeth, efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr baratoi rhan o’r cyfrifon terfynol, neu’r cyfan ohonynt, a bydd yr uned hon yn rhoi’r wybodaeth ddamcaniaethol sydd ei hangen arnynt i gwblhau’r dasg honno. Hefyd, bydd yn eu galluogi i ddeall sut mae cyfrifon terfynol yn cael eu cynhyrchu, naill ai gyda llaw neu yn awtomatig drwy ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu.
Technegau Cyfrifeg Rheoli
Mae’r uned hon yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall rôl cyfrifeg rheoli mewn sefydliad, a sut mae sefydliadau yn defnyddio gwybodaeth o’r fath i helpu i wneud penderfyniadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu’r egwyddorion sy’n sail i dechnegau a methodoleg cyfrifeg rheoli, sut yr ymdrinnir â chostau mewn sefydliadau, a pham mae sefydliadau yn delio â chostau mewn gwahanol ffyrdd. Bydd myfyrwyr yn gallu adnabod dulliau gwahanol o gyfrifeg rheoli a chynnig barn ddoeth a rhesymegol i arwain rheolaeth. Byddant hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio’r egwyddorion hyn a gwerthfawrogi pam mae cyfrifeg rheoli effeithiol yn hanfodol i unrhyw sefydliad.
Prosesau Treth ar gyfer Busnes
Mae’r uned hon yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall rôl cyfrifeg rheoli mewn sefydliad, a sut mae sefydliadau yn defnyddio gwybodaeth o’r fath i helpu i wneud penderfyniadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu’r egwyddorion sy’n sail i dechnegau a methodoleg cyfrifeg rheoli, sut yr ymdrinnir â chostau mewn sefydliadau, a pham mae sefydliadau yn delio â chostau mewn gwahanol ffyrdd. Bydd myfyrwyr yn gallu adnabod dulliau gwahanol o gyfrifeg rheoli a chynnig barn ddoeth a rhesymegol i arwain rheolaeth. Byddant hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio’r egwyddorion hyn a gwerthfawrogi pam mae cyfrifeg rheoli effeithiol yn hanfodol i unrhyw sefydliad.
Ar gyfer TAW, bydd myfyrwyr yn deall y rheolau cofrestru a dadgofrestru, gan gynnwys cofrestru ar gyfer Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD), a’r rheolau sy’n berthnasol i gynlluniau TAW arbennig. Bydd myfyrwyr yn gallu adnabod y gwahanol fathau o gyflenwadau a chyfrifo TAW yn gywir, gan ddeall pwysigrwydd y rheolau sy’n gysylltiedig ag adfer TAW wrth brynu a’r cosbau a sancsiynau ar gyfer camgymeriadau, hepgoriadau a methu â chyflwyno a thalu o fewn y cyfnodau cywir. Bydd myfyrwyr yn gallu gwirio cywirdeb cyfrifiadau, anfonebau a phwyntiau treth, a byddant yn dysgu am gywiro gwallau. Wrth ddysgu am gynnwys ffurflenni TAW, bydd myfyrwyr yn dod i ddeall sut i ddefnyddio rheolau arbennig pan fydd nwyddau a gwasanaethau’n cael eu mewnforio a’u hallforio o’r DU a’r Undeb Ewropeaidd (UE), a sut i ddethol y data priodol er mwyn cwblhau ffurflenni TAW.
O ran y gyflogres, bydd myfyrwyr yn deall y prosesau ar gyfer busnesau sy’n ymwneud â chyfrifo tâl a didyniadau a chynnwys dogfennau ac adroddiadau a gynhyrchir ar feddalwedd, yn ogystal â’r amser i gyflwyno a thalu.
Cwblhau AAT Lefel 2 neu Cadw Cyfrifon Lefel 2 yn llwyddiannus, ynghyd â phrofiad masnachol. Efallai bydd angen ichi fynychu cyfweliad a chwblhau asesiad Sgiliau AAT yn llwyddiannus. Mae ffi aelodaeth AAT oddeutu £240 yn daladwy, ac mae angen ichi ei thalu’n uniongyrchol i AAT.
Mae'r asesiadau addysgu ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys pedwar asesiad ar gyfrifiadur.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.