Diploma Uwch AAT mewn Cyfrifyddu

L3 Lefel 3
Rhan Amser
10 Medi 2025 — 17 Mehefin 2026
Campws y Barri
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae Diploma yr AAT mewn Cyfrifeg yn ymdrin ag ystod o sgiliau cyfrifeg a chyllid mewn pedair uned orfodol. Mae'r cwrs AAT (Association of Accounting Technicians) lefel uwch hwn yn gymhwyster cyfrifeg lefel ganolig, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddatblygu'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes am gyfrifeg.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ymwybyddiaeth o Fusnes

Mae’r uned hon yn darparu dealltwriaeth o’r busnes, ei amgylchedd a’r dylanwad y mae hyn yn ei gael ar strwythur sefydliad, ei swyddogaeth gyfrifyddu a’i berfformiad. Bydd myfyrwyr yn edrych ar y mathau o fusnesau sy’n bodoli a dibenion busnesau, yn ogystal â hawliau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid allweddol. Bydd myfyrwyr yn dysgu am yr amgylcheddau micro- a macro-economaidd a’r effaith a’r dylanwad y gall newidiadau yn yr amgylcheddau hyn eu cael ar berfformiad a phenderfyniadau. Bydd hyn yn cynnwys dealltwriaeth o’r gyfraith fusnes sylfaenol sy’n berthnasol i baratoi datganiadau ariannol ar gyfer gwahanol fathau o endidau. Bydd myfyrwyr yn dysgu am gysyniadau risgiau, mathau o risgiau a rheoli risgiau ar gyfer busnes.

Bydd myfyrwyr yn deall pwysigrwydd moeseg broffesiynol a rheolaeth foesegol, a sut mae’r swyddogaeth ariannol yn rhyngweithio â swyddogaethau allweddol eraill yn y busnes i wella effeithlonrwydd gweithredol. Bydd myfyrwyr yn dysgu am yr agweddau craidd ar y cod moesegol ar gyfer cyfrifwyr, a byddant yn defnyddio’r egwyddorion hyn i ddadansoddi a beirniadu sefyllfaoedd moesegol a allai godi yn y gweithle. Byddant hefyd yn deall sut mae ymddwyn yn foesegol yn tarddu o werthoedd sefydliadol a phersonol craidd, yn ogystal â deall y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol ar gyfer atal gwyngalchu arian.

Cyfrifyddu Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol

Mae’r uned hon yn darparu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gynhyrchu datganiadau elw neu golled a datganiadau sefyllfa ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau sy’n defnyddio mantolen brawf. Mewn cyflogaeth, efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr baratoi rhan o’r cyfrifon terfynol, neu’r cyfan ohonynt, a bydd yr uned hon yn rhoi’r wybodaeth ddamcaniaethol sydd ei hangen arnynt i gwblhau’r dasg honno. Hefyd, bydd yn eu galluogi i ddeall sut mae cyfrifon terfynol yn cael eu cynhyrchu, naill ai gyda llaw neu yn awtomatig drwy ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu. 

Technegau Cyfrifeg Rheoli

Mae’r uned hon yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall rôl cyfrifeg rheoli mewn sefydliad, a sut mae sefydliadau yn defnyddio gwybodaeth o’r fath i helpu i wneud penderfyniadau.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £275.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £1,000.00

Gofynion mynediad

Cwblhau AAT Lefel 2 gyda phrofiad masnachol yn llwyddiannus. Bydd rhaid i chi fynychu cyfweliad a llwyddo mewn Asesiad Sgiliau AAT.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2025

Dyddiad gorffen

17 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

BSCR3P08
L3

Cymhwyster

AAT Advanced Diploma in Accounting

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i raglen Diploma Cyfrifeg AAT Lefel 4 yn y coleg, a gallant symud ymlaen i gyfrifeg siartredig ohono. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant. 

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ