Mynediad at Wyddorau Iechyd

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae cwrs Mynediad yn gyfle dysgu dwys, wedi'i anelu at oedolion sy'n dymuno astudio yn y brifysgol ond nad oes ganddynt y cymwysterau i wneud cais. Byddai cwrs Mynediad yn addas i fyfyrwyr hŷn sydd â phrofiadau helaeth o ran gwaith a bywyd ac sydd heb fod mewn addysg ffurfiol ers 3 blynedd neu fwy. Mae cwrs Mynediad Lefel 3 wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi myfyrwyr at astudio ar lefel prifysgol.

Byddai'r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr sy'n awyddus i ddilyn gyrfa mewn swydd gofal iechyd ac sy'n dymuno astudio un o'r graddau prifysgol canlynol (DS nid yw'r rhestr hon yn gyflawn)

  • Nyrsio
  • Bydwreigiaeth
  • Gwyddoniaeth Barafeddygol
  • Ffisiotherapi
  • Therapi Galwedigaethol
  • Therapi Iaith a Lleferydd
  • Radiograffeg Ddiagnostig
  • Podiatreg
  • Awdioleg

*Gallwch astudio'r cwrs hwn yn rhan-amser hefyd

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â phynciau yn:

  • Cemeg
  • Anatomeg a Ffisioleg
  • Bioleg
  • Gofal Iechyd

Mwy

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00

Gofynion mynediad

3 blynedd neu fwy allan o addysgu ffurfiol Saesneg TGAU C+ (os ydych yn bwriadu dod yn athro yng Nghymru byddwch angen gradd B mewn Mathemateg a Saesneg TGAU) neu IELTS Lefel 6 Cofiwch fod Mathemateg a Saesneg TGAU yn rhan o ofynion mynediad rhai prifysgolion, a Gwyddoniaeth TGAU mewn rhai achosion.  Llwybrau gadael clir, wedi'u hymchwilio'n dda, gwybodaeth am gyrsiau prifysgol a gofynion mynediad. Sgiliau rhifedd lefel 2 sgiliau llythrennedd cryf ar lefel 2 /lefel 3 yn ddelfrydol. *Dylai myfyrwyr wneud gwaith ymchwil a sicrhau eu bod nhw'n bodloni gofynion mynediad cymhwyster y brifysgol o'r dewis. Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymhwyster cyn cofrestru.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth ac arholiadau.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

16 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ACCC3F02
L3

Cymhwyster

Access to Higher Education Diploma (Health Science)

Mwy

Fideos

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen yn y coleg a mynd ati i astudio am Radd Sylfaen. Hefyd mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant, yn ogystal â nifer o gyrsiau yn y Brifysgol. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE