Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

L2 Lefel 2
Rhan Amser
1 Medi 2025 — 22 Tachwedd 2025
Neuadd Llanrhymni
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y cwrs Llythrennedd Digidol yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau sy’n eich galluogi i fyw, dysgu a gweithio yn ein cymdeithas ddigidol.

Gellir defnyddio’r sgiliau hyn ar ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.

Byddwch yn:

  • dangos sut i ryngweithio’n ddiogel yn
  • ddigidol gwybod beth yw ystyr ôl troed digidol
  • gallu trefnu a storio gwybodaeth ddigidol
  • gallu dewis gwybodaeth ddigidol
  • gwybod sut y gall cydweithio digidol fod yn ddefnyddiol wrth gyflawni tasg
  • gallu creu adnodd digidol amlgyfrwng
  • gwybod sut all llythrennedd digidol ymestyn cyfleoedd dysgu

Caiff y cymhwyster ei asesu drwy asesiad dan reolaeth. Bydd dysgwyr yn cwblhau hyn wrth fynychu’r coleg, dan amodau a oruchwylir.

Mae dosbarthiadau ar gael o Lefel Mynediad 1 i Lefel 2 ac yn cychwyn fis Medi, Ionawr ac Ebrill.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

22 Tachwedd 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Neuadd Llanrhymni
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ABLHDP101
L2

Cymhwyster

Digital Literacy Essential Skill