Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif

L2 Lefel 2
8 Medi 2024 — 20 Rhagfyr 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Oedolion sy’n ddysgwyr sy’n dymuno gwella a datblygu eu sgiliau rhifedd ac ennill Cymhwyster Sgiliau Allweddol, neu Sgiliau am Oes Agored a Chymhwyster Gwaith a fydd yn:

  • Magu hyder personol
  • Galluogi symud ymlaen i astudiaeth bellach fel cyrsiau prifysgol neu alwedigaethol
  • Helpu i wella cyfleoedd gwaith a gyrfa.

Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y cwrs ac yn cael y cyfle i archwilio’r llwybrau dilyniant lu sydd gan y coleg i’w cynnig yn ogystal â chael yr hawl i'r holl fuddion ychwanegol mae’r coleg yn eu cynnig, fel gostyngiadau i fyfyrwyr; cyfleusterau llesiant a gostyngiadau teithio.

Caiff y cymhwyster ei asesu drwy asesiad dan reolaeth. Bydd dysgwyr yn cwblhau hyn wrth fynychu’r coleg, dan amodau a oruchwylir.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Rhagfyr 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ABAONL2
L2

Cymhwyster

Application of Number Essential Skills L2