Cerddoriaeth (Perfformio)

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Os ydych yn awyddus i ddilyn gyrfa gyffrous yn y diwydiant cerddoriaeth, mae ein Diploma Estynedig a Sylfaenol Lefel 3 mewn Cerddoriaeth (Perfformio) yn fan cychwyn gwych.  Mae'r Diploma yn gwrs llawn amser dros ddwy flynedd, wedi'i gynnal ar ein Campws Canol y Ddinas, ac mae wedi'i anelu'n benodol at gerddorion perfformio.   Bydd y Diploma hefyd yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer astudiaeth Addysg Uwch mewn cyrsiau sy’n ymwneud â cherddoriaeth.  Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar y pedwar prif bwnc canlynol, sy'n cynnwys:


  • Datblygu Sgiliau Cerddoriaeth
  • Y Diwydiant Cerddoriaeth
  • Proffil Cerddoriaeth Personol
  • Prosiect Cerddoriaeth Cydweithredol

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn ogystal, gall dysgwyr ddisgwyl ennill gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o berfformiadau grŵp a'r broses ymarfer, trefnu digwyddiadau a deall sut mae'r diwydiant cerddoriaeth yn gweithio, a'r cwbl wrth ddatblygu sgiliau o ran damcaniaeth, cyfansoddi a gwrando.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio ystod eang o fodiwlau, gan gynnwys:

  • Technegau Perfformio Cerddoriaeth a Dulliau Sesiynau
  • Y Diwydiant Sain a Cherddoriaeth
  • Cerddoriaeth a Chymdeithas
  • Cyfansoddi Cerddoriaeth
  • Damcaniaeth Cerddoriaeth, Sgiliau Harmoni a Gwrando
  • Sgiliau Perfformiadau Cerddoriaeth Unigol
  • Gweithio a Datblygu fel Ensemble Cerddorol


Mae nifer o ddisgyblion yn mynd ymlaen i astudio cerddoriaeth ac arbenigo yn eu hofferyn neu gymhwyso eu sgiliau trosglwyddiadau i bwnc perthnasol yn eu Prifysgol o'u dewis.

Bydd dysgwyr hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru fel rhan o’u rhaglen astudio, sydd hefyd yn cynnwys sesiynau tiwtorial ac e-diwtorialau wythnosol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Stiwdio: £65.00

Gofynion Mynediad

5 TGAU Gradd A* - C, gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Teilyngdod neu uwch, ynghyd â TGAU Saesneg a Mathemateg ar radd C neu uwch.  Rhaid i'r holl ymgeiswyr fynychu cyfweliad a chlyweliad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PCCC3F04
L3

Cymhwyster

Pearson BTEC Level 3 National Foundation Diploma in Music

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Mwynheais y cwrs yn fawr, rwyf wedi cael bod yn greadigol a gweithio gydag artistiaid eraill. Mae wedi fy ngwneud yn hapus iawn!” 

Matthew Williams
Myfyriwr Cerdd Lefel 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£5.2 billion

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn werth £5.2 biliwn i economi’r DU ac mae ganddo weithlu o 190,000 (UK Music 2019).

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE