Technoleg Cerddoriaeth
Ynglŷn â'r cwrs
Os ydych chi’n awyddus i ddilyn gyrfa gyffrous yn y diwydiant cerddoriaeth, mae Diploma 90 Credyd BTEC mewn Technoleg Cerddoriaeth yn gwrs perffaith i chi! Mae’n cael ei addysgu ar gampws newydd sbon canol y ddinas a bydd y cwrs yn rhoi sylw i amrywiaeth eang o bynciau i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am y sector ac i’ch paratoi chi ar gyfer byd gwaith. Drwy gydol y rhaglen byddwch yn gweithio ar brosiectau amrywiol a fydd yn rhoi sefyllfaoedd realistig, seiliedig ar waith, i chi i wella eich sgiliau diwydiant.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl o bob oedran sy’n dymuno datblygu a gwella eu sgiliau yn y meysydd canlynol:
- Cynhyrchu Cerddoriaeth
- Trefnu a marchnata digwyddiadau byw
- Cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth
- Arferion y Diwydiant Cerddoriaeth
Beth fyddwch yn ei astudio?
Yn ystod y Cwrs Technoleg Cerddoriaeth yma, bydd y pynciau canlynol yn cael sylw:
- Technegau Cynhyrchu Cerddoriaeth.
- Technegau Sain Byw.
- Cynhyrchu a Chynnal Cyngherddau.
- Technegau a Systemau Cyfresu.
- Creu a Thrin Sain.
- Cerddoriaeth a Sain ar gyfer Delweddau’n Symud.
- Technoleg Cerddoriaeth mewn Perfformio.
- Cyfansoddi Cerddoriaeth.
- Y Diwydiant Sain a Cherddoriaeth.
- Cerddoriaeth yn y Gymdeithas.
- Sgiliau Gwrando ar gyfer Technolegwyr Cerddoriaeth.
- Theori a Harmoni Cerddoriaeth.
- Cynllunio a Darparu Cynnyrch Cerddorol.
- Gweithio gyda Phecynnau Nodiant Cerddoriaeth.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £30.00
Ffioedd Stiwdio: £65.00
Gofynion mynediad
5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd llwyddo neu uwch. Rhaid i chi fynychu cyfweliad.
Addysgu ac Asesu
Nid oes unrhyw arholiadau yn ystod y cwrs hwn. Yn hytrach, rydych chi’n cael eich asesu drwy gydol y flwyddyn ac mae’r canlyniadau’n seiliedig ar brosiectau ymarferol ac ysgrifenedig.
Pwyntiau pwysig
- Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr o dan 18 oed
- Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
- Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu llwytho i fyny neu eu hargraffu
- Bydd cyrsiau ond ar gael os oes nifer digonol o fyfyrwyr yn cofrestru
- Sylwer, os ydych yn dewis tri neu fwy o ddewisiadau cwrs, efallai bydd rhaid i chi gael apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rydw i wrth fy modd nad oedd y coleg yn rhy llac ei reolau ac eto ddim yn rhy ddifrifol. Roeddwn i'n edrych ymlaen at ddod i'r coleg dim ots pa mor gynnar oeddwn i'n gorfod codi. Rydw i jyst eisiau dal ati i ddysgu.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu