CELTA (Tystysgrif addysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill)

L5 Lefel 5
Rhan Amser
24 Mehefin 2024 — 19 Gorffennaf 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae cwrs CELTA Saesneg Caergrawnt yn gwrs rhagarweiniol wedi ei gynllunio i alluogi cyfranogwyr i ennill gwybodaeth pwnc hanfodol a llu o sgiliau ymarferol ar gyfer addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Mae'n cynnwys lleiafswm o 120 o oriau cyswllt, gan gynnwys 6 awr o ymarfer addysgu wedi'i asesu, ac yn dilyn y maes llafur CELTA a gymeradwywyd gan Saesneg Prifysgol Caergrawnt. Mae'r cynnwys yn rhoi sylw i'r canlynol: 

  • Dysgwyr ac athrawon, a'r cyd-destun addysgu / dysgu;
  • Ymwybyddiaeth a dadansoddi iaith;
  • Sgiliau iaith: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu;
  • Cynllunio gwersi, adnoddau a deunyddiau;
  • Datblygu sgiliau addysgu a phroffesiynoldeb.

Bellach mae'r cwrs CELTA ar gael mewn fformat cyfunol, yn cyfuno hunan-astudio hyblyg gyda chymorth tiwtor ar-lein a phrofiad dysgu ymarferol. Mae Cambridge CELTA Ar-lein yn dilyn yr un maes llafur ac yn arwain at yr un dystysgrif sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, yn yr un modd â'r cwrs wyneb yn wyneb. Mae hefyd yn rhoi'r un pwyslais ar theori ac addysgu ymarferol. Am ragor o wybodaeth am y cwrs CELTA ar-lein, gweler y wefan ganlynol: http://www.cambridgeenglish.org/teaching-english/teaching-qualifications/celta/ways-to-take-celta/

Manylion y cymhwyster

Mae cwrs CELTA Saesneg Caergrawnt yn arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer y rheiny sy'n dymuno mentro i'r proffesiwn addysgu iaith Saesneg i oedolion, ac mae'n aml yn cael ei ystyried yn ofyniad sylfaenol ar gyfer cyflogaeth mewn sefydliadau addysgu ieithoedd ledled y byd. Mae wedi'i achredu yn y DU gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Ofqual) ar Lefel 5 y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddedig (RQF). 

Amserlen

Mae gennym ddau gwrs ac mae'r oriau mynychu fel a ganlyn:

  • Cwrs Dysgu Cyfunol Rhan Amser CELTA (mis Hydref at y Pasg): Pob dydd Llun 13.00 tan 19.00.  (Ymarfer Addysgu yn y coleg). Gellir gweithio ar y gydran o'r cwrs sydd ar-lein o bell, ar amser sy'n gyfleus i chi. Mae wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref a mis Chwefror, a phythefnos o wyliau adeg y Nadolig.
  • Cwrs 4 wythnos wyneb yn wyneb CELTA (mis Mehefin i fis Gorffennaf): Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30 tan 17.00.

Yn ogystal â'r amserlen sydd wedi'i threfnu, mae disgwyl bod yr ymgeiswyr yn ymroi o leiaf 120 o oriau ar gyfer y paratoadau gofynnol cyn y cwrs, darllen, ymchwil, ysgrifennu aseiniadau, paratoi gwersi, cadw cofnodion, tiwtorialau ac arsylwi athrawon profiadol.

Addysgu ac Asesu

Sut fyddaf yn dysgu?

Mae natur y cwrs yn ymarferol iawn. Mae wedi ei rannu yn sesiynau mewnbwn ac ymarfer addysgu. Bydd y sesiynau mewnbwn yn canolbwyntio ar theori ac egwyddorion sylfaenol addysgu a dysgu iaith. Mae'r sesiynau ymarfer addysgu sy'n cael eu goruchwylio yn gyfle ichi roi'r theori ar waith.

Cewch arweiniad a goruchwyliaeth wrth gynllunio eich gwersi yn ogystal ag adborth ysgrifenedig a llafar ar eich addysgu. Yn ystod y cwrs, byddwch hefyd yn cael y cyfle i arsylwi athrawon profiadol, a bydd disgwyl ichi gwblhau pedwar aseiniad ysgrifenedig a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o addysgu Saesneg.

Sut fyddaf yn cal fy asesu?

Mae Asesu Saesneg Prifysgol Caergrawnt wedi cymeradwyo rhaglen cwrs, staffio a chyfleusterau pob canolfan sy'n cynnig cyrsiau sy'n arwain at y dystysgrif CELTA. Mae'r cwrs yn cael ei asesu yn ôl meini prawf, yn barhaus ac yn integredig. Nid oes arholiad terfynol ac nid yw presenoldeb ar y cwrs yn gwarantu eich bod am ei gwblhau'n llwyddiannus. Bydd y dystysgrif yn cael ei dyfarnu i ymgeiswyr sy'n cwblhau pob un o ofynion y cwrs ac yn bodloni pob maen prawf asesu.

Ar ddechrau'r cwrs, bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybodaeth fanwl ynghylch meini prawf asesiadau ymarfer addysgu ac aseiniadau ysgrifenedig y cwrs, a chyfeirir at y meini prawf hyn drwy gydol y cwrs. Mae ymgeiswyr yn cael cymorth ac arweiniad priodol ac yn cael gwybod am eu cynnydd yn ystod y cwrs drwy sylwebaeth ysgrifenedig ar eu hymarfer addysgu ac aseiniadau ysgrifenedig, a thrwy sesiynau tiwtorial.

Dwy elfen yr asesiadau CELTA yw:

  1. Ymarfer addysgu

    Erbyn diwedd y chwe awr o ymarfer addysgu a asesir, sy'n digwydd dros nifer o sesiynau, dylai ymgeiswyr fod wedi cyflawni pob un o'r meini prawf ymarfer addysgu.

  2. Aseiniadau ysgrifenedig

Mae pedwar aseiniad ysgrifenedig i gyd, yn canolbwyntio ar yr agweddau canlynol:

  • y dysgwr
  • systemau'r iaith Saesneg
  • dadansoddi deunyddiau dysgu / addysgu
  • myfyrio ar arsylwi gwersi, ymarfer addysgu ac adnabod y pwyntiau addysgu

Mae'r aseiniadau hyn yn amrywio o ran hyd ac arddull ond ni ddylai cyfanswm geiriau'r gwaith ysgrifenedig a asesir fod yn llai na 3,000. Gellir ailgyflwyno unrhyw aseiniad ysgrifenedig sy'n methu â bodloni'r meini prawf asesu a nodwyd, ar un achlysur yn unig. Mae'r Ymarfer Addysgu a'r Aseiniadau Ysgrifenedig yn cael eu hasesu'n fewnol gan diwtoriaid y cwrs.  Mae pob cwrs hefyd yn cael ei safoni'n allanol gan asesydd CELTA sy'n ymweld â'r ganolfan, yn arholi portffolios asesu yr ymgeiswyr ac yn arsylwi’r ymarfer addysgu.

Gofynion mynediad

Mae'n rhaid i ymgeiswyr:

  • fod yn 18 oed neu'n hŷn, er ein bod yn argymell yn gyffredinol y dylai ymgeiswyr fod yn 20 oed neu'n hŷn;
  • bod ag ymwybyddiaeth o iaith a gallu mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar, a fydd yn eu galluogi i ymgymryd â'r cwrs a pharatoi tuag at addysgu ystod o lefelau gwahanol (y lefel a argymhellir yw C2 ar y CEFR);
  • bod â chyfarpar cyfrifiadurol addas, cysylltiad band eang sefydlog â lled band/ lwfans data digonol a lefel llythrennedd digidol a fydd yn eu galluogi i ddeall gofynion technegol eu cwrs yn hawdd;
  • fel gofyniad lleiaf, bod â safon addysg sy'n gyfatebol i'r hyn sy'n ofynnol er mwyn mynd ymlaen i addysg uwch. Gall y ganolfan ddefnyddio ei disgresiwn i dderbyn ymgeiswyr nad ydynt â chymhwyster ffurfiol ar y lefel hon, os yw sgrinio'n awgrymu eu bod yn debygol o gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Yn ogystal, rhaid i’r ganolfan sicrhau ei hun fod:

  • ymgeiswyr yn meddu ar y potensial i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i fod yn athrawon effeithiol ac i gwblhau'r aseiniadau ysgrifenedig ac asesiad ymarfer addysgu'n llwyddiannus;
  • y cwrs yn addas ar gyfer ymgeiswyr o ran eu profiad, cefndir a chynlluniau gyrfaol;
  • ymgeiswyr yn gallu mynychu'r cwrs cyfan

Gwybodaeth am ffioedd y cwrs

Mae'r ffioedd yn cynnwys yr holl addysgu, deunyddiau, ffotogopïau, mynediad at gyfleusterau'r coleg fel y Ganolfan Ddysgu, a ffi arholiad CELTA Saesneg Prifysgol Caergrawnt.

Rhaid talu 25% o'r ffioedd wrth gofrestru. Mae cofrestru fel arfer yn digwydd o fewn pythefnos i'r cyfweliad. Gellir talu'r ffioedd sy'n weddill mewn rhandaliadau. Ni fydd ad-daliadau llawn yn cael eu rhoi fel arfer.

Cais a chyfweliad

Sut ydw i'n gwneud cais?

Cliciwch ar yr eicon 'Gwneud cais nawr' ar frig y tudalen hwn, a chwblhewch y ffurflen gais ar-lein. Os ydych yn dymuno gwneud cwrs CELTA ar adeg wahanol, cliciwch ar yr eicon 'Newid' ar frig y tudalen er mwyn sicrhau eich bod yn cwblhau'r ffurflen CELTA gywir.

Hefyd, e-bostiwch y dogfennau cais canlynol at Diwtor y Cwrs, Simon Smith ssmith@cavc.ac.uk:

  • CV gyda manylion llawn eich cymwysterau;
  • Datganiad personol tua 300-350 gair yn amlinellu eich rhesymau dros fod eisiau dilyn y cwrs a pham eich bod yn meddwl y byddwch yn athro/athrawes Saesng i Siaradwyr Ieithoedd Eraill da. Byddai manylion ynghylch eich swydd bresennol, profiad gwaith blaenorol, gwybodaeth o ieithoedd eraill ac unrhyw brofiad o addysgu sydd gennych, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â'ch cynlluniau gyrfa yn y dyfodol, yn ddefnyddiol er mwyn inni asesu pa mor addas ydych chi ar gyfer y cwrs.
  • Copi wedi ei sganio o'ch cymhwyster uchaf, e.e. tystysgrif gradd

    Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais yn gynnar er mwyn rhoi gwell cyfle ichi o sicrhau lle ar eich cwrs dewis cyntaf. Mae lleoedd yn cael eu cynnig i ymgeiswyr addas ar sail y cyntaf i'r felin.

    Beth sy'n digwydd nesaf?

    Bydd Tiwtor Cwrs CELTA yn asesu eich cais er mwyn gwirio eich bod yn bodloni gofynion mynediad y cwrs. Unwaith ein bod wedi asesu eich cais, mae 2 canlyniad posibl:

  • Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwahodd i gael cyfweliad yn y sesiwn nesaf fydd ar gael.
  • Os nad ydych yn bodloni un neu fwy o'r gofynion mynediad, byddwch yn derbyn e-bost yn egluro pam nad ydy'r cwrs yn addas ichi ar yr adeg hon.

Beth sy'n digwydd mewn cyfweliad?

Bydd ymgeiswyr ond yn cael eu derbyn ar y cwrs ar ôl cwblhau tasg cyn cyfweliad, a dod am gyfweliad. Bydd y sesiwn gyfweld yn cynnwys y canlynol:

  • cyflwyniad cryno i'r cwrs;
  • arddangosiad micro-addysgu a thasg adborth grŵp gydag ymgeiswyr eraill;
  • tasg iaith ysgrifenedig
  • cyfweliad unigol gyda thiwtor CELTA.

Bydd canlyniad y sesiwn gyfweld yn cael ei anfon atoch chi drwy e-bost o fewn pum diwrnod gwaith. Mae penderfyniad y ganolfan yn derfynol.

Rhagor o wybodaeth ynghylch CELTA ac addysgu iaith Saesneg

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r cwrs CELTA ac addysgu iaith Saesneg, ewch i wefan Saesneg Caergrawnt yn http://www.cambridgeenglish.org/teaching-english/teaching-qualifications/celta/

Am ystod o fideos a gweminarau am CELTA, edrychwch ar sianel Youtube Saesneg Caergrawnt yma: https://www.youtube.com/user/cambridgeenglishtv/search?query=celta

Cwestiynau Cyffredin

Pam ddylwn i ddilyn y cwrs CELTA yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro?

Ni yw'r Ganolfan CELTA Saesneg Caergrawnt hynaf yng Nghymru. Rydym wedi bod yn cynnal cyrsiau CELTA yn y coleg ers 2005 ac wedi hyfforddi dros 400 o athrawon iaith Saesneg yn llwyddiannus. Mae ein tiwtoriaid yn athrawon a hyfforddwyr profiadol; mae dau ohonynt hefyd yn aseswyr CELTA Saesneg Caergrawnt. Os ydych yn dilyn y cwrs yma, byddwch yn cael mynediad at yr holl gyfleusterau a gwasanaethau sydd ond yn cael eu cynnig gan golegau mawr.

Pa gefnogaeth fyddwch chi’n ei rhoi i mi wrth astudio a dysgu 100% ar-lein yn ystod y pandemig Covid 19 cyfredol?

Mae gan CAVC ystafelloedd dosbarth rhithwir eisoes ar waith, felly gallwch chi a’ch myfyrwyr ddysgu ac addysgu ar-lein mewn gwersi byw. Byddwn yn darparu cefnogaeth ac arweiniad tiwtorial cryf ynghyd ag unedau a mewnbwn cyrsiau ar-lein. Y coleg yw’r coleg Microsoft Showcase cyntaf yng Nghymru ac mae ganddo dîm TEL (Dysgu wedi’i Wella gan Dechnoleg) sy’n arwain y sector i’n helpu i ddarparu’r profiadau addysgu a dysgu gorau un ar-lein. 

Mae gennyf gymhwyster addysgu ac ychydig o brofiad addysgu eisoes. A fyddaf yn cael fy esgusodi o rai cyfraniadau a / neu ymarferion addysgu?

Nid oes achrediad ar gyfer dysgu neu brofiad blaenorol i ymgeiswyr sy'n dymuno dilyn y cwrs hwn. Mae'n rhaid i'r holl ymgeiswyr fynychu a chwblhau'r cwrs cyfan er mwyn cael y dyfarniad.

Beth yw'r posibilrwydd fy mod i'n mynd i lwyddo?

Mae graddau ein canolfan yn adlewyrchu, neu'n rhagori ar gymaryddion cenedlaethol a rhyngwladol.

Cewch weld yr ystadegau graddau diweddaraf yma: http://gradestatistics.cambridgeenglish.org/2018/celta.html

A fyddaf yn medru cael swydd addysgu gyda CELTA yn unig, neu a oes angen cymwysterau addysgu eraill arna i hefyd?

Byddwch yn gallu dod o hyd i swyddi addysgu EFL ac ESOL yn y DU a thramor gyda thystysgrif CELTA. Fodd bynnag, efallai y byddwch angen cymhwyster ychwanegol, fel TAR, DELTA Saesneg Caergrawnt neu MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol / TESOL, os ydych am geisio swyddi mwy parhaol ac / neu uwch, yn dibynnu ar ba sector addysg rydych ynddo. Mae ymgeiswyr fel arfer yn dechrau gyda'r CELTA ac yn mynd ymlaen i geisio un neu fwy o'r cymwysterau eraill yn nes ymlaen yn eu gyrfa.

A oes digonedd o gyfleoedd gwaith? A fyddaf yn medru dod o hyd i waith llawn-amser?

Mae digonedd o swyddi rhan-amser, dros do a llawn-amser ar gael dramor, ac fe ddylech allu dod o hyd i waith yn weddol hawdd mewn ystod o wledydd. Mae dod o hyd i swyddi parhaol, llawn-amser yn y DU yn anoddach. Mae ymgeiswyr fel arfer yn dod o hyd i swyddi tymhorol yn ystod yr haf a / neu waith sy'n cael ei dalu fesul awr yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyntaf, ac maent yn raddol yn gwneud mwy o oriau nes bod cyfleoedd parhaol yn codi.

Ble mae eich graddedigion CELTA diweddar wedi dod o hyd i waith?

Mae rhai wedi mynd ymlaen i weithio mewn sefydliadau preifat a chyhoeddus dramor, yn Ne America, Affrica, Asia ac Ewrop. Mae eraill wedi dod o hyd i waith yn lleol mewn ysgolion iaith preifat, colegau addysg bellach, addysg oedolion cymunedol, prifysgolion ac elusennau. Mae rhai graddedigion wedi penderfynu mynd ymlaen i wneud cwrs TAR mewn addysg gynradd neu uwchradd. Mae nifer bychan wedi aros yn eu swyddi blaenorol. Ychydig iawn o ymgeiswyr sy'n dal i chwilio am swyddi neu leoliadau addysg.

A fyddaf yn dod o hyd i waith gyda thystysgrif CELTA ond ddim gradd?

Mae graddedigion CELTA blaenorol nad oedd ganddynt radd israddedig wedi dod o hyd i waith mewn ysgolion iaith preifat ac mewn addysg bellach yn y DU a thramor. Fodd bynnag, heb radd, efallai y bydd yn anodd ichi ddod o hyd i waith mewn addysg uwch neu sefydliad yn y DU sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Prydeinig. Mae rhai gwledydd yn disgwyl bod gan athrawon radd, gan gynnwys Gwlad Groeg a Sbaen.

Rydw i wedi trefnu i fynd ar wythnos o wyliau yn ystod y cwrs. A oes modd imi golli rhai o’r sesiynau?

Mae Saesneg Caergrawnt yn gofyn bod ymgeiswyr yn mynychu 100% o'r cwrs. Mae'n rhaid eich bod yn dal i fyny gydag unrhyw sesiwn sy'n cael ei golli. Os oes rhaid ichi golli un neu ddwy o'r sesiynau yn ystod y cwrs, bydd angen ichi drafod hyn gyda'ch tiwtor CELTA yn ystod y cyfweliad. Gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg o fewn canllawiau Saesneg Caergrawnt. Fodd bynnag, mae rhai amgylchiadau lle nad yw hyn yn bosibl, e.e. yn ystod cwrs dwys llawn-amser neu ar ddechrau cwrs rhan-amser.

Nid oes gennyf gyfrifiadur personol adref. A fydd hyn yn broblem?

Gallwch archebu amser i ddefnyddio'r cyfrifiaduron yng Nghanolfan Dysgu ein Coleg. Fodd bynnag, mi fydd angen mynediad i gyfrifiadur a chysylltiad y we tu allan i’r coleg arnoch chi.

Mae gennyf anabledd / gyflwr iechyd. A fyddaf yn cael cymorth ychwanegol a / neu help yn ystod fy nghwrs?

Os oes gennych unrhyw fath o anabledd, neu os oes gennych chi gyflwr iechyd a all effeithio ar eich cynnydd ar y cwrs, mae angen ichi roi gwybod i ni am hyn cyn gynted ag y bo modd, e.e. yn ystod y cyfweliad, fel ein bod yn medru trefnu ichi gael eich asesu gan un o'n harbenigwyr cymorth dysgu a fydd yn trefnu bod y cymorth angenrheidiol yn barod ar eich cyfer, cyn i'r cwrs ddechrau. Bydd rhoi gwybod i ni yn gynnar yn ein helpu i sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud fel bod gennych bob siawns o lwyddo ar y cwrs.

A oes unrhyw ostyngiadau, grantiau neu fwrsarïau ar gael ar gyfer ymgeiswyr CELTA?

Os ydych wedi colli eich swydd yn ddiweddar, mae cyllid REACT ar gael ichi. Gweler ReAct funding | Careers Wales (gov.wales) am fanylion. Efallai byddwch hefyd yn medru ceisio Benthyciad Datblygu Gyrfa gan eich banc. Nid yw'r coleg yn medru cynnig gostyngiad i unrhyw ymgeisydd sy'n gwneud cais am y cwrs CELTA.

A fydd angen imi brynu llyfrau cyn neu yn ystod y cwrs, a pha adnoddau eraill sydd ar gael?

Mae holl lawlyfrau'r cwrs a'r deunyddiau atodol EFL / ESOL ar gael yng Nghanolfan Dysgu'r coleg, a gallwch eu benthyg yn ystod y cwrs. Fodd bynnag, efallai y byddwch eisiau prynu eich copi eich hun o argraffiad diweddaraf Learning Teaching gan Jim Scrievener, gan fod ymgeiswyr yn ei weld yn ddefnyddiol iawn. Efallai bydd gwefan a thiwtorialau fideo Jo Gakonga yn ddefnyddiol iawn ichi cyn, yn ystod ac ar ôl gorffen eich cwrs CELTA. Mae Jo yn un o JCAs CELTA. Gallwch ddod o hyd i'w gwefan yma: https://www.elt-training.com/

Byddwch yn cael benthyg y llyfrau cwrs y byddwch eu hangen yn ystod eich sesiynau ymarfer addysgu. Gallwch wneud ffotogopïau ar gyfer eich myfyrwyr Ymarfer Addysgu yn y coleg, ac maent yn cael eu cynnwys yn ffi'r cwrs. Mae holl gyfleusterau ac adnoddau'r coleg y bydd angen ichi eu defnyddio yn ystod eich cwrs, hefyd ar gael ichi am ddim.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chwrs CELTA CAVC, cysylltwch ag: lmanogg@cavc.ac.uk (Cwrs dwys Mehefin-Gorffennaf).

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster