Cymorth Ffioedd Hyfforddi
Gall myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru wneud cais am fenthyciad ffioedd heb brawf modd o hyd at £2,625 i dalu eu ffioedd blynyddol. Rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio ar ddwysedd o 25% o leiaf i fod yn gymwys e.e. mae myfyriwr llawn amser yn cwblhau Gradd Sylfaen mewn 2 flynedd, felly byddai'n rhaid i fyfyriwr rhan amser gwblhau'r cwrs mewn dim mwy nag 8 mlynedd.
Cymorth Cynhaliaeth (Costau Byw)
Gall myfyrwyr wneud cais am gymorth blynyddol tuag at gostau byw hyd at uchafswm o £6,488.00. Bydd hwn yn gyfuniad o grant (nad oes angen ei ad-dalu) a benthyciad (y mae’n rhaid ei ad-dalu). Mae swm y grant a’r benthyciad a gewch yn dibynnu ar nifer yr oriau rydych yn astudio (h.y. pa mor ddwys yw’r astudiaethau) ac incwm eich aelwyd.
Fe welwch lun o swm y grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael ar wahanol lefelau o incwm teuluoedd a dwyster astudio yn y tabl isod.
Incwm (£) | Grant Dysgu Llywodraeth Cymru neu’r Grant Cymorth Arbennig (£) | Benthyciad Cynhaliaeth (£) | Cyfanswm y Benthyciad a’r Grant (£) |
Astudio ar ddwyster o 75% (90 credyd modiwl) | |||
25,000 | 4,500.00 | 1,988.00 | 6,488.00 |
30,000 | 3,953.00 | 2,535.00 | 6,488.00 |
35,000 | 3,404.00 | 3,083.00 | 6,488.00 |
40,000 | 2,856.00 | 3,632.00 | 6,488.00 |
45,000 | 2,308.00 | 4,180.00 | 6,488.00 |
50,000 | 1,760.00 | 4,728.00 | 6,488.00 |
55,000 | 1,211.00 | 5,276.00 | 6,488.00 |
59,200 | 750.00 | 5,738.00 | 6,488.00 |
Income (£) | Welsh Government Learning Grant or Special Support Grant (£) | Maintenance Loan (£) | Total Grant Plus Loan (£) |
Astudio ar ddwyster o 50% (60 credyd modiwl) | |||
25,000 | 3,000.00 | 1,325.00 | 4,325.00 |
30,000 | 2,635.00 | 1,690.00 | 4,325.00 |
35,000 | 2,270.00 | 2,056.00 | 4,325.00 |
40,000 | 1,904.00 | 2,421.00 | 4,325.00 |
45,000 | 1,539.00 | 2,787.00 | 4,325.00 |
50,000 | 1,173.00 | 3,152.00 | 4,325.00 |
55,000 | 807.5 | 3,518.00 | 4,325.00 |
59,200 | 500 | 3,825.00 | 4,325.00 |
Cefnogaeth Ariannol Arall:
Mae mwy o wybodaeth am y gefnogaeth ariannol ychwanegol yma ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cymhwysedd am Gefnogaeth Ariannol
Mae'r cymhwysedd yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, a ydych chi wedi astudio cwrs AU a chael cefnogaeth o'r blaen a'r math o gwrs rydych chi'n ei wneud:
Ble rydych yn byw
Rhaid i fyfyrwyr fod yn breswylydd yn y DU neu dinesydd Gwyddelig neu gyda “statws sefydlog”. Fel rheol, dylai myfyrwyr fod yn byw yng Nghymru fel arfer ar ddiwrnod cyntaf eu cwrs, a bod wedi byw yn y DU ers o leiaf 3 blynedd cyn dechrau’r cwrs, a hynny nid er pwrpas addysg llawn amser. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais dan feini prawf gwahanol.
Cymhwysedd Personol
Ni fydd myfyrwyr sydd eisoes â gradd yn gymwys. Er hynny mae rhai eithriadau, gyda’r eithriad o gynnwys y myfyrwyr hynny sy’n dymuno astudio cwrs TAR rhan amser. Cyfeiriwch at bwy sy’n gymwys ar gyfer mwy o wybodaeth ynglŷn ag eithriadau.
Math o Gwrs
Rhaid i'r cwrs arwain at gymhwyster Addysg Uwch cydnabyddedig e.e. Gradd, Gradd Sylfaen, Tystysgrif neu Ddiploma Addysg Uwch neu Dystysgrif/Diploma Cenedlaethol Uwch (HNC/D) neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR).
Sut i Wneud Cais
Gwneir pob cais ar-lein i Gyllid Myfyrwyr Cymru.