Beth mae prentisiaid CAVC yn ddweud

Edrychwch beth mae ein prentisiaid yn ddweud

"Penderfynais fynd i blymio am fy mod i eisiau ennill arian da ac roeddwn i angen gyrfa felly dewisais grefft. Rydw i'n meddwl eich bod yn cael profiad gwerthfawr ar y cwrs y gallwch ei ddefnyddio yn eich gwaith. Uchafbwynt fy amser yn y coleg oedd cael fy swydd."

Emma Ford

Prentis Plymio Lefel 3

"Rwy'n gwybod fy mod yn gwella bob dydd wrth astudio yn y Coleg a defnyddio'r sgiliau. Rydw i hyd yn oed yn mynd i gystadlu yn World Skills mewn paentio cerbydau,"

Cory Maher 

Prentisiaeth Ailorffen Cerbydau Lefel 3

"Rydw i wastad wedi bod yn berson ymarferol ac roedd Prentisiaeth yn swnio'n ddelfrydol. Mae CAVC yn gwneud yr ochr theori ac yn cysylltu efo'ch cyflogwr. Mae dod i'r coleg yn debyg i fynd i'r gwaith ar safle. Mae gennych chi weithdai ac rydych chi'n gwneud tasgau ymarferol ac yn cysylltu'r theori efo beth rydych chi'n ei wneud yn y gwaith."

Michael Donovan

Prentis Trydanol JTL/CAVC