Ein Tîm Cyswllt Ysgolion
Cyfarfod y tîm
Mae ein tîm cyswllt ysgolion yn gweithio gydag ysgolion mewn ffyrdd amrywiol ac yn darparu gwybodaeth am yr holl gyfleoedd i ddysgu gyda Choleg Caerdydd a'r Fro.
Newyddion diweddaraf
Cymerwch ran yn ein Heriau Creadigol CAVC 2022, cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Nosweithiau Rhieni
Cyflwyniadau mewn Gwasanaethau Boreol.
Cyfweliadau Ffug
Cystadlaethau Her Ysgolion
Sesiynau gwybodaeth penodol
Prentisiaethau
Mae CAVC yn cynnig llawer o Brentisiaethau mewn nifer o wahanol sectorau. Gallwch roi sesiynau cynghori ac arweiniad i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am y buddion o Brentisiaethau a sut I gael Prentisiaeth a'r broses o sicrhau lleoliad ar gyfer eich Prentisiaeth.
Academïau Chwaraeon
Mae ein Academïau Chwaraeon cyffrous yn CAVC, gan gynnwys ein Academïau Rygbi a Phêl droed, yn cael eu rhedeg gan weithwyr proffesiynol profiadol o'r byd chwaraeon.
Mae sesiynau yn rhoi gwybod i ddisgyblion am y cyfleoedd sy'n cyd fynd ag astudiaethau CAVC yn gallu cael eu cyflwyno'n annibynnol neu fel sgwrs gyffredinol gan Academïau Chwaraeon CAVC.
Peirianneg Awyrofod
Mae'r Diwydiant Awyrofod yng Nghymru yn tyfu'n gyflym gan gyflogi mwy nag 20,000 o bobl yng Nghymru.
Mae CAVC yn cynnig ystod eang o raglenni yn yr adran yma yn ein cyfleusterau o safon diwydiant yn ICAT (Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod). Mae ein sesiynau gwybodaeth Awyrofod yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddarganfod mwy am y diwydiant yma a'r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael.
Maes gyrfaol / Sesiynau Penodol i Bwnc
Gallwn gynnig sgyrsiau ar feysydd gyrfaol penodol neu bynciau a gynigir yn CAVC.
Gall y rhain fod yn seiliedig ar wybodaeth neu gael eu cyflwyno fel sesiwn blasu i fyfyrwyr roi cynnig ar bwnc newydd. Gellir teilwra'r sesiynau yma i ddiwallu anghenion yr yr ysgol.
Addysg Uwch
Gyda Chanolfannau Astudio AU pwrpasol, cynllun bwrsariaeth hael a ffioedd dysgu is na phrifysgolion, mae cynnig Addysg Uwch CAVC yn un nad ydych eisiau ei golli. Gallwn drefnu sesiwn AU yn eich ysgol i roi cyngor ar symud o AB i AU.