Lefel(au): Lefel 3
Hyd: 30-36 mis
Lleoliad: Canol y Ddinas, Heol Dumballs ac yn y Gweithle
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r Brentisiaeth Oeri ac Aerdymheru (Lefel 3) yn gorwedd o fewn y sector Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ac fe’i cymeradwyir ar gyfer ei defnyddio yng Nghymru dan raglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Llwybrau:
Mae’r ddau lwybr gweithredol yn canolbwyntio ar wasanaethu, cynnal a chadw, canfod diffygion, gwaith cynnal a chadw cynlluniedig, a thrin oeryddion yn ddiogel.
Cymhwyster Cymhwysedd
Cymhwyster ymarferol sy’n seiliedig ar y gweithle, er mwyn profi bod modd i’r prentis gyflawni’r swydd.
Mae’r unedau arferol yn cynnwys:
Gwasanaethu a chynnal a chadw systemau oeri neu systemau aerdymheru
Diagnosio a chywiro diffygion
Gosod a chomisiynu
Egwyddorion trydanol ac ynysu diogel
Trin oeryddion (yn cynnwys cydymffurfio â nwyon wedi’u fflworineiddio)
Cymhwyster Gwybodaeth Dechnegol
Mae’n ymdrin â’r theori sy’n angenrheidiol yn y diwydiant Oeri ac Aerdymheru, yn cynnwys:
Thermodynameg
Cydrannau a dyluniad systemau
Anghenion amgylcheddol
Mesurau rheoli trydanol ac electronig
Deddfwriaeth y diwydiant (nwyon fflworineiddiedig, iechyd a diogelwch)
*Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 / *Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 / *Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 – Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Mae’r Brentisiaeth hon (y ddau lwybr) yn addas i’r dysgwyr canlynol:
Dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio yn y maes masnach ar y pryd
Dysgwyr sydd wedi pasio’r holl asesiadau mynediad penodol sy’n berthnasol i’r sector (pan fo’n briodol)
Dysgwyr sydd wedi cyflawni un neu fwy o’r canlynol (neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig):
Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Lefel 2
Cymhwyster Camu Ymlaen mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Lefel 2*
Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
TGAU gradd A-C ym mhob un o’r canlynol: pwnc cyfathrebu, mathemateg, a naill ai pwnc yn y maes gwyddoniaeth neu dechnoleg (e.e. Dylunio a Thechnoleg, Electroneg ac ati)
TGAU gradd A-C yn Yr Amgylchedd Adeiledig, TGAU CBAC
Cymhwyster Lefel 2 ‘Mynediad at Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu’
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn