Gweithgynhyrchu

Prentisiaeth Sylfaen mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau

Lefel(au): Lefel 2

Hyd: 22 mis

Lleoliad: Canol y Ddinas, Heol Dumballs ac yn y Gweithle

Ynglŷn â’r Cwrs:

Y brentisiaeth Lefel 2 hon yw rhaglen sylfaenol y sector modurol yng Nghymru. Mae’n paratoi prentisiaid ar gyfer rolau technegwyr lefel mynediad mewn arbenigeddau cerbydau ysgafn a thrwm.
Mae’n datblygu dysgwyr ac yn eu troi’n Dechnegwyr Gwasanaeth, gan gynnig llwybr cynnydd clir ar gyfer prentisiaeth Lefel 3.

Llwybrau:

Cymhwyster Cymhwysedd Galwedigaethol (VCQ neu NVQ)
• Rhoi gwasanaeth i gerbydau
• Gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol
• Tynnu ac ailosod cydrannau
• Canfod diffygion a diagnosteg sylfaenol
• Iechyd a diogelwch ac arferion y dylid eu dilyn yn y gweithdy
Cymhwyster Gwybodaeth Dechnegol (VRQ), yn cwmpasu:
• Systemau injans
• Systemau trydanol ac electronig
• Siasïau, brêcs, llywio a hongiad
• Systemau tanwydd a thanio
• Deddfwriaeth ac arferion gweithio diogel
Hefyd, bydd y prentisiaid yn meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol:
• Rhoi gwasanaeth cyffredinol i gerbydau
• Diagnosteg sylfaenol
• Archwilio cerbydau
• Arferion diogel yn y gweithdy
• Gofal i gwsmeriaid ac ymddygiad proffesiynol
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

TGAU gradd G neu uwch mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfwerth)

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn