Gwasanaethau Cyfreithiol

Prentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol – Paragyfreithiwr

Lefel(au): Lefel 3

Hyd: 24 mis (yn unol â’r blynyddoedd academaidd)

Lleoliad: Ysgol Fusnes Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, 1 diwrnod yr wythnos
Ar-lein neu Wyneb yn Wyneb

Ynglŷn â’r Cwrs:

Mae’r Brentisiaeth Baragyfreithiol yn cyfuno dull ymarferol gyda’r wybodaeth academaidd sy’n angenrheidiol i fod yn Baragyfreithiwr/Triniwr Achosion llwyddiannus. Mae’r gallu i roi sylw i fanylion, ynghyd â sgiliau cyfathrebu a’r gallu i reoli pwysau mewn amgylchedd prysur, yn briodoleddau hollbwysig sy’n rhan o’r rôl hon a rolau eraill yn y diwydiant cyfreithiol. Bydd y cam sylfaen yn galluogi’r ymgeiswyr i ddangos ymwybyddiaeth sylfaenol o’r gyfraith sy’n sail i feysydd ymarfer hollbwysig. Bydd y prentisiaid yn astudio ar gyfer Cymhwyster Proffesiynol CILEX (CPQ), ac ar ôl ei gwblhau byddant yn Baragyfreithwyr CILEX.

Llwybrau:

Cam Sylfaen Cymhwyster Proffesiynol Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX)
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

Safon dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU A*-C mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2.

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn

Prentisiaeth Uwch mewn Gwasanaethau Cyfreithiol – Paragyfreithiwr Uwch

Lefel(au): Lefel 5

Hyd: 24 mis (yn unol â’r blynyddoedd academaidd)

Lleoliad: Ysgol Fusnes Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, 1 diwrnod yr wythnos
Ar-lein neu Wyneb yn Wyneb

Ynglŷn â’r Cwrs:

Bydd y Brentisiaeth Uwch Paragyfreithiwr Uwch yn galluogi’r ymgeiswyr i ddangos gwybodaeth dechnegol a defnydd ymarferol o’r gyfraith sy’n ymwneud â meysydd ymarfer hollbwysig. Hefyd bydd yn gwella sgiliau, yn cynnwys ymwybyddiaeth fusnes, ynghyd â dealltwriaeth o safonau proffesiynol a rheoleiddiol a’r modd y dylid cadw at y safonau hynny. Bydd yn cyflwyno gwybodaeth gyfreithiol hollbwysig ar draws gwahanol feysydd ymarfer cyfreithiol. Bydd y prentisiaid yn astudio ar gyfer Cam Uwch Cymhwyster Proffesiynol CILEX (CPQ), ac ar ôl ei gwblhau byddant yn Baragyfreithwyr Uwch CILEX.

Llwybrau:

Cam Uwch Cymhwyster Proffesiynol Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX)
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

Cymhwyster Sylfaen CPQ neu gymhwyster cyfwerth
Safon dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU A*-C mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2.

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn
Efallai y bydd esemptiadau’n cael eu dyfarnu gan ddibynnu ar ymdriniaeth y Radd yn y Gyfraith. Hefyd, er mwyn cael mynediad uniongyrchol at gwrs Uwch CPQ, bydd angen cwblhau Moeseg a Chyfrifoldeb Proffesiynol Rhan 1.