Lefel(au): Lefel 3
Hyd: 42 mis
Lleoliad: Campws y Barri ac yn y Gweithle
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Peirianneg yn rhan o Fframwaith Prentisiaethau Cymru FR05072, a ddyroddir gan Enginuity. Mae’n cynorthwyo i ddatblygu peirianwyr medrus (lefel crefft a thechnegydd) ar draws amryfal is-sectorau peirianneg, yn cynnwys cynnal a chadw peirianneg.
Mae’r llwybr hwn yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol y mae eu hangen i gynnal a chadw, archwilio, diagnosio ac atgyweirio cyfarpar mecanyddol, trydanol a gweithgynhyrchu a ddefnyddir mewn amgylcheddau peirianneg a diwydiannol.
Mae’n addas ar gyfer prentisiaid sy’n gweithio yn y meysydd canlynol:
• Amgylcheddau cynnal a chadw awyrofod
• Peirianneg fodurol neu beirianneg rheilffyrdd
• Llinellau cynhyrchu a gweithgynhyrchu
• Rolau cynnal a chadw mecanyddol neu drydanol
• Cynnal a chadw systemau, peiriannau neu weithfeydd diwydiannol
Mae’r llwybr yn cynhyrchu technegwyr cynnal a chadw amlsgiliau a all ategu gweithrediadau peirianneg diogel ac effeithlon. Mae’r llwybr hwn yn gweddu i brentisiaid sy’n:
• Gweithio mewn rolau peirianneg cynnal a chadw (mecanyddol, trydanol neu amlsgiliau)
• Cynnal a chadw cyfarpar, peiriannau, systemau neu gydrannau
• Gwneud gwaith cynnal a chadw ataliol neu ymatebol
• Cynorthwyo i ganfod diffygion ac ymdrin â diagnosteg, archwilio, atgyweirio a phrofi
• Dymuno camu ymlaen i rôl technegydd neu uwch-rôl cynnal a chadw
Llwybrau:
Diploma EAL Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg
Diploma EAL Lefel 3 mewn Technolegau Peirianneg
Diploma Estynedig NVQ EAL Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Peirianneg
• Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, Lefel 2
• Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol, Lefel 2
• Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Mae Prentisiaeth Lefel 3 yn addas i ymgeiswyr sy’n meddu ar bum TGAU gradd C (gradd 4 newydd) neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddonol
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn
Lefel(au): Lefel 3
Hyd: 42 mis
Lleoliad: Campws y Barri ac yn y Gweithle
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r llwybr Cymorth Technegol Peirianneg yn rhan o Fframwaith Prentisiaethau Cymru FR05072 Lefel 3, a’r bwriad yw datblygu technegwyr peirianneg medrus a all gynorthwyo i ddylunio, cynllunio, sicrhau ansawdd, dogfennu a chydlynu gweithgareddau mewn amgylcheddau gweithgynhyrchu a pheirianneg.
Bydd y llwybr yn paratoi prentisiaid ar gyfer rolau sy’n cynorthwyo timau peirianneg trwy gyfrwng y canlynol:
• Llunio dogfennau ac adroddiadau technegol
• Cynllunio ac amserlennu peirianneg
• CAD a chynorthwyo i ddehongli lluniadau
• Monitro ansawdd ac archwilio gweithgareddau
• Peirianneg cynhyrchu ac optimeiddio prosesau
• Cydgysylltu cynhyrchu neu ddeunyddiau
• Rhoi cyngor technegol i dimau peirianneg a gweithgynhyrchu
Fe’i hanelir at ddysgwyr sy’n gweithio mewn rolau mwy technegol mewn swyddfeydd, neu rolau hybrid, yn hytrach na rolau crefft ymarferol traddodiadol. Mae’r llwybr hwn yn gweddu i brentisiaid sy’n gweithio mewn rolau fel:
• Technegydd Cymorth Technegol
• Cydgysylltydd Peirianneg
• Technegydd Cefnogi Dylunio neu CAD
• Swyddog Cymorth Ansawdd neu Gydymffurfio
• Swyddog Cymorth Peirianneg Cynhyrchu
• Cynorthwyydd Peirianneg Prosiect neu Gynllunio
Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n ymhél â phrosesau, dogfennu, profi, cynllunio neu ddadansoddi yn y maes peirianneg, yn hytach na thasgau sy’n ymwneud yn bennaf â gweithgynhyrchu neu gynnal a chadw.
Llwybrau:
Diploma EAL Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg
Diploma EAL Lefel 3 mewn Technolegau Peirianneg
Diploma Estynedig NVQ EAL Lefel 3 mewn Cymorth Technegol Peirianneg
• Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, Lefel 2
• Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol, Lefel 2
• Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Mae Prentisiaeth Lefel 3 yn addas i ymgeiswyr sy’n meddu ar bum TGAU gradd C (gradd 4 newydd) neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddonol
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn
Lefel(au): Lefel 3
Hyd: 42 mis
Lleoliad: Yn y Gweithle
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg yn rhan o Fframwaith Prentisiaethau Cymru FR05072, a ddyroddir gan Enginuity. Mae’n paratoi prentisiaid ar gyfer rolau medrus (lefel technegydd) mewn peirianneg a gweithgynhyrchu, yn cynnwys y sector awyrofod.
Bwriedir i’r llwybr feithrin yr wybodaeth dechnegol, y sgiliau ymarferol a’r cymwyseddau sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol mewn amgylcheddau peirianneg awyrofod, megis:
• Gweithgynhyrchu awyrennau
• Cynhyrchu cydrannau awyrofod
• Saernïo, cydosod a gosod
• Cynorthwyo i gynnal a chadw ac archwilio
• Gweithgynhyrchu cynhyrchion cyfansawdd a strwythurau awyrennau
Mae’r llwybr hwn yn addas i brentisiaid:
• sy’n gweithio mewn amgylcheddau gweithgynhyrchu awyrofod neu beirianneg awyrofod
• sy’n cynorthwyo i weithgynhyrchu, cydosod neu gynnal a chadw cydrannau awyrennau
• sydd angen arddangos cymhwysedd peirianneg Lefel 3 (crefft neu dechnegydd)
• sy’n dymuno camu ymlaen i rolau mwy technegol neu oruchwyliol yn y maes awyrofod
Llwybrau:
Diploma EAL Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg
Diploma Estynedig NVQ EAL Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrenegol