Lefel(au): Lefel 3
Hyd: 48/36 mis
Mae gwahanol fannau mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn yn golygu y bydd hyd y cwrs yn amrywio
Lleoliad: Campws y Barri ac yn y Gweithle
1 diwrnod yn y coleg bob wythnos, gweddill y diwrnodau gyda’r cyflogwr
Ynglŷn â’r Cwrs:
Bydd angen dilyn y cymhwyster Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu EAL Lefel 3 – Gosod Electrodechnegol fel rhan o brentisiaeth. Mae’n galluogi’r dysgwyr i arddangos dealltwriaeth, sgiliau a gwybodaeth mewn systemau electrodechnegol a gosod cyfarpar. Fe’i hanelir at ddysgwyr sydd naill ai wedi cyflawni’r cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, neu a fydd yn cwblhau eu dysgu a’u hasesiadau Sylfaen tra’n dilyn prentisiaeth. Bwriedir i’r cymhwyster gael ei gwblhau’n rhan-amser mewn prentisiaeth. Cyn i’r asesiadau gael eu cynnal, rhaid i’r dysgwyr ddangos bod eu perfformiad a’u gallu yn bodloni eu cyflogwr.
Llwybrau:
City & Guilds Lefel 2 Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (C00/4414/0)
Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu EAL (Lefel 3) – Gosod Electrodechnegol (C00/4278/8)
Os bydd y dysgwr yn dilyn y cymhwyster Lefel 3 hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb gyflawni’r cymhwyster City & Guilds Lefel 2 Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, rhaid iddo gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
Pedwar prawf dewis lluosog a osodir yn allanol ac a gaiff eu marcio’n allanol
Prawf Diogelwch Hollbwysig a osodir yn allanol ac a gaiff ei farcio’n fewnol (asesiadau ymarferol)
Un prosiect a osodir yn allanol ac a gaiff ei farcio’n fewnol
Un drafodaeth dan arweiniad a gaiff ei marcio’n fewnol
Un prosiect a osodir gan y cyflogwr ac a asesir yn fewnol, yn ymdrin â maes masnach o ddewis y cyflogwr
Un drafodaeth broffesiynol a gaiff ei marcio’n allanol
Os bydd y dysgwr wedi cyflawni’r cymhwyster City & Guilds Lefel 2 Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, rhaid iddo gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
Tri phrawf dewis lluosog a osodir yn allanol ac a gaiff eu marcio’n allanol
Prawf Diogelwch Hollbwysig a osodir yn allanol ac a gaiff ei farcio’n fewnol (asesiadau ymarferol)
Un prosiect ymarferol a osodir gan y cyflogwr ac a gaiff ei farcio’n fewnol yn y maes masnach
Un drafodaeth broffesiynol a gaiff ei marcio’n allanol
Gofynion Mynediad:
16+ oed ac yn gweithio yn y maes masnach ar y pryd
Wedi cyflawni un neu fwy o’r canlynol (neu gymwysterau cydnabyddedig cyfwerth):
Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu Lefel 2 Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
TGAU gradd A-C ym mhob un o’r canlynol: Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg, a phwnc yn y maes Gwyddoniaeth neu Dechnoleg
TGAU gradd A-C yn Yr Amgylchedd Adeiledig, TGAU CBAC
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid i’r prentisiaid fod â chyflogwr a all ymdrin â meini prawf y brentisiaeth – hynny yw, Gosod Trydanol mewn lleoliad domestig, masnachol a diwydiannol
Rhaid ichi fod wedi cwblhau AM2S
Bydd yn ofynnol i’r holl brentisiaid fodloni gofynion yr asesiad terfynol a gydnabyddir gan y diwydiant, sef AM2S. Diben yr asesiad AM2S yw sicrhau y bydd yr holl drydanwyr yn cyrraedd safon gyson y cytunodd cyflogwyr y DU ei bod yn bodloni eu disgwyliadau ar gyfer unigolion cymwysedig. Bwriad yr asesiad yw profi bod y prentis wedi ennill a chadw’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol a ddysgwyd yn ystod cyfnod y Brentisiaeth.