Modurol

Prentisiaeth Sylfaen mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau

Lefel(au): Lefel 2

Hyd: 22 mis

Lleoliad:
Canol y Ddinas, Heol Dumballs ac yn y Gweithle

Ynglŷn â’r Cwrs:

Y brentisiaeth Lefel 2 hon yw rhaglen sylfaenol y sector modurol yng Nghymru. Mae’n paratoi prentisiaid ar gyfer rolau technegwyr lefel mynediad mewn arbenigeddau cerbydau ysgafn a thrwm.
Mae’n datblygu dysgwyr ac yn eu troi’n Dechnegwyr Gwasanaeth, gan gynnig llwybr cynnydd clir ar gyfer prentisiaeth Lefel 3.

Llwybrau:

Cymhwyster Cymhwysedd Galwedigaethol (VCQ neu NVQ)
Rhoi gwasanaeth i gerbydau
Gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol
Tynnu ac ailosod cydrannau
Canfod diffygion a diagnosteg sylfaenol
Iechyd a diogelwch ac arferion y dylid eu dilyn yn y gweithdy
Cymhwyster Gwybodaeth Dechnegol (VRQ), yn cwmpasu:
Systemau injans
Systemau trydanol ac electronig
Siasïau, brêcs, llywio a hongiad
Systemau tanwydd a thanio
Deddfwriaeth ac arferion gweithio diogel
Hefyd, bydd y prentisiaid yn meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol:
Rhoi gwasanaeth cyffredinol i gerbydau
Diagnosteg sylfaenol
Archwilio cerbydau
Arferion diogel yn y gweithdy
Gofal i gwsmeriaid ac ymddygiad proffesiynol
Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

TGAU gradd G neu uwch mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfwerth)

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn

Prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau

Lefel(au): Lefel 3

Hyd: 18 mis

Lleoliad: Canol y Ddinas, Heol Dumballs ac yn y Gweithle

Ynglŷn â’r Cwrs:

Y brentisiaeth Lefel 3 hon yw’r Brentisiaeth lawn ar gyfer Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau yng Nghymru. Mae’n paratoi prentisiaid ar gyfer rolau Technegwyr Diagnostig / Technegwyr Uwch yn y sector modurol. Mae fframwaith swyddogol Cymru yn cynnwys y llwybrau canlynol ar gyfer Lefel 3:
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Trwm
Mae’r rhain yn adeiladu ar y sgiliau sylfaenol a ddysgwyd yn ystod Lefel 2, gan helpu prentisiaid i gamu ymlaen tuag at gyfrifoldebau technegol mwy cymhleth a diagnostig.

Llwybrau:

Cymhwyster Cymhwysedd Galwedigaethol (VCQ neu NVQ), yn cwmpasu:
Profion cymhleth a diagnosteg gymhleth
Canfod diffygion ar lefel uwch
Atgyweirio prif systemau a chydrannau 
Defnyddio cyfarpar ac offer diagnostig
Cydymffurfio â safonau’r diwydiant a safonau diogelwch
Cymhwyster Gwybodaeth Dechnegol (VRQ), yn cwmpasu:
Systemau injans, systemau gêr a systemau cydrannau sy’n trosglwyddo pŵer mecanyddol o’r gêr i’r olwynion
Systemau trydanol ac electronig uwch
Systemau brecio a dynameg siasïau
Systemau allyriadau a hybrid
Rhwydweithiau cyfathrebu cerbydau
Egwyddorion diagnostig
Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

Argymhellir y dylai’r dysgwyr feddu ar gymwysterau TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfwerth), ond nid yw hyn yn hanfodol.

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn

Prentisiaeth Sylfaen mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau

Lefel(au): Lefel 2

Hyd: 22 mis

Lleoliad: Canol y Ddinas, Heol Dumballs ac yn y Gweithle

Ynglŷn â’r Cwrs:

Mae’r brentisiaeth Lefel 2 hon yn meithrin y sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer rolau’n ymwneud ag atgyweirio ar ôl damweiniau, atgyweirio cyrff cerbydau a gorffen cerbydau (paentio). Fel arfer, mae’r dysgwyr yn arbenigo naill ai mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau neu Egwyddorion Paentio, ar Lefel 2. Mae darparwyr hyfforddiant yng Nghymru yn cynnig y ddau lwybr canlynol ar Lefel 2:
A. Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau – Egwyddorion Cyrff Cerbydau
B. Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau – Egwyddorion Paentio
Cynigir y cwrs fel rhan o ddarpariaethau ‘atgyweirio ar ôl damweiniau’ Lefel 2 yng Nghymru, gan alluogi’r prentisiaid i ganolbwyntio ar waith ailorffen.
Mae’r ddwy arbenigaeth yn cyd-fynd â llwybr y brentisiaeth Damweiniau ac Atgyweirio a ddefnyddir yn y sector yng Nghymru.

Llwybrau:

Cymhwyster Cymhwysedd Galwedigaethol (VCQ neu NVQ), yn cwmpasu:
Ar gyfer Atgyweirio Cyrff Cerbydau:
Tynnu ac ailosod paneli
Gwneud mân atgyweiriadau
Weldio MAG
Alinio cyrff cerbydau
Gweithio gyda chydrannau mecanyddol, cydrannau trydanol a thrimiau
Ar gyfer Paentio:
Paratoi paneli
Masgio, preimio a phaentio
Paru lliwiau
Prosesau ailorffen
Cymhwyster Gwybodaeth Dechnegol (VRQ):
Diploma IMI Lefel 2 mewn Egwyddorion Atgyweirio Cyrff Cerbydau ar ôl Damweiniau
Diploma IMI Lefel 2 mewn Egwyddorion Paentio Cyrff Cerbydau ar ôl Damweiniau
Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

Cymwysterau TGAU gradd G neu uwch mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfwerth)

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn

Prentisiaeth mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau

Lefel(au): Lefel 3

Hyd: 18 mis

Lleoliad: Canol y Ddinas: Heol Dumballs ac yn y Gweithle

Ynglŷn â’r Cwrs:

Mae’r brentisiaeth Lefel 3 hon yn paratoi’r dysgwyr ar gyfer gweithio fel Technegwyr Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Technegwyr Ailorffen Paent neu Dechnegwyr Atgyweirio ar ôl Damweiniau amlsgiliau. Mae’n ymestyn y sgiliau a ddysgwyd yn ystod Lefel 2 trwy gyflwyno prosesau ailorffen cymhleth, prosesau uwch ar gyfer atgyweirio cyrff cerbydau, a gweithgareddau MET (Mecanyddol, Trydanol a Thrimiau). Fel arfer, mae prentisiaid Lefel 3 yn arbenigo yn un o’r meysydd canlynol:

A. Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau – Cyrff Cerbydau (Lefel 3)
Ar gyfer atgyweiriadau MET, cosmetig a strwythurol uwch.
B. Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau – Paentio (Ailorffen) (Lefel 3)
Ar gyfer systemau paent aml-gam, cyfuno lliwiau, theori lliwiau ac ailorffen uwch.
Bydd y prentisiaid yn astudio:

Technegydd Atgyweirio Cyrff Cerbydau (Lefel 3):

Atgyweirio difrod strwythurol mawr
Saernïo paneli a sythu uwch
Deunyddiau modern a dur cryf
Weldio uwch (MAG, weldio MIG, profi sbot-weldio)
Cydrannau MET (bagiau awyr, synwyryddion, trimiau trydanol)
Prosesau cynllunio ac amcangyfrif atgyweiriadau (yn unol â’r diwydiant)

Technegydd Ailorffen Paent (Lefel 3):

Systemau ailorffen uwch
Ailorffen arwynebau plastig
Systemau aml-haen (haen gyntaf/clir/perlog)
Theori lliw (paent tair haen, pigmentau effaith)
Cywiro paent a gorffen o’r radd flaenaf
Ailorffen paneli cymhleth a llecynnau lle cyfunwyd lliwiau

Llwybrau:

Cymhwyster Cymhwysedd Lefel 3 (VCQ neu NVQ)
Cymhwyster Gwybodaeth Dechnegol (VRQ)
Ar gyfer Atgyweirio Cyrff Cerbydau:
Alinio ac atgyweirio strwythurol
Gweithrediadau MET uwch
Weldio a bondio
Strategaethau atgyweirio
Ar gyfer Paent:
Paratoi arwynebau
Taenu paent aml-gam
Paru lliwiau uwch
Technegau gorffen paent
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, Lefel 2
Dyfarniad mewn Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol, Lefel 2
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

Argymhellir y dylai’r dysgwyr feddu ar gymwysterau TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (neu gymhwyster cyfwerth), ond nid yw hyn yn hanfodol.

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn