Cyfarfod … Lorna

"

Rydw i wedi bod yma ers bron i 14 mlynedd. Dechreuais yn y coleg ym mis Chwefror 2011 fel athro dan hyfforddiant, tra’r oeddwn yn astudio fy nghymhwyster TAR. Roeddwn eisiau gweithio mewn coleg addysg bellach prysur, oherwydd cefais flas mawr ar fynychu coleg addysg bellach pan oeddwn yn astudio ar gyfer fy nghymwysterau Safon Uwch. Roeddwn wrth fy modd pan gefais gynnig gwaith ychwanegol yn addysgu sgiliau llythrennedd tra’r oeddwn yn astudio. Y mis Medi wedyn, ar ôl cymhwyso, cefais amserlen addysgu lawn fel darlithydd rhan-amser a gâi dâl fesul awr. Ar ôl rhyw ddwy flynedd, cefais gontract amser llawn yn addysgu sgiliau ar draws y coleg a deuthum yn Ddilysydd Mewnol Arweiniol ar gyfer Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol. Yna, symudais i’r adran Addysg Gyffredinol, gan addysgu TGAU a Safon Uwch Iaith Saesneg. Yn 2018, deuthum yn Ddirprwy Bennaeth Addysg Gyffredinol, gan ennill profiad rheoli ac arwain.  Ar ôl pedair blynedd a hanner yn y rôl honno, symudais i rôl newydd sbon fel Arweinydd Rhagoriaeth; fel tîm newydd, rydym yn datblygu strategaethau ar gyfer Addysgu a Dysgu a datblygu staff. Rydw i’n parhau i weithio yn y maes hwn fel Rheolwr Ansawdd.

Rydw i wrth fy modd â natur amrywiol y gwaith yn CCAF – mae pob diwrnod yn wahanol ac mae pob blwyddyn academaidd yn esgor ar brofiadau newydd. Mae nifer y dysgwyr, y staff a’r partneriaid yn golygu ei fod yn lle cyffrous i weithio ynddo, ac mae wastad yn ferw o bobl, digwyddiadau a phrosiectau ac ati – pob un mor wahanol i’w gilydd. Yn ystod fy holl flynyddoedd yn y coleg, nid wyf wedi syrffedu o gwbl! Ac mae yna gynifer o gyfleoedd i’w cael mewn sefydliad o’r maint hwn; mae’n galonogol gwybod eich bod yn gweithio yn rhywle lle caiff y staff eu cynorthwyo a’u hannog i ddefnyddio’u gwybodaeth a’u sgiliau mewn gwahanol feysydd.

Hawdd iawn fyddai poeni am ‘fynd ar goll’ wrth weithio mewn sefydliad mawr; ond yn CCAF, mae gennym gymuned o bobl a gaiff eu hysgogi gan werthoedd, felly cydnabyddir gwaith da a gwrandewir ar syniadau. Dengys fy siwrnai fod y staff yn cael eu hannog i brifio a datblygu – dyna, wrth gwrs, yw hanfod addysg. Yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu gyrfa, mae yna gynifer o gyfleoedd allanol ar gael i aelodau staff CCAF. Un o’r cyfleoedd mwyaf cofiadwy i mi oedd mynd â dysgwyr i Norwy am wythnos i ymweld â’n hysgol bartner yn Bergen, fel rhan o raglen gyfnewid. Yn ogystal â chael profiad anhygoel yn ymweld â lle mor hardd, cawsom y fraint o gynnig profiad dysgu mor unigryw i bobl ifanc. Hefyd, rydw i wedi cael cyfle i fynychu cynadleddau cenedlaethol, lle cefais gyfarfod ag arweinwyr byd-enwog yn y maes addysg a chyflwyno sesiynau ochr yn ochr â nhw. Profiad gwirioneddol werth chweil, a chyfle i gynrychioli’r coleg ar lwyfan cenedlaethol neu ryngwladol.

"