Cyfarfod … Josephine

"

Rydw i wedi gweithio yn y coleg ers 6 blynedd. Dechreuais fel Technegydd Gwyddoniaeth tra’r oeddwn yn gorffen fy Ngradd Meistr mewn Gwyddoniaeth Fforensig. Fy mwriad bob amser oedd bod yn ddarlithydd, ond nid oeddwn yn siŵr ai dyna’r swydd i mi. Trwy fod yn Dechnegydd Gwyddoniaeth, fe wnes i fagu awydd mawr i fod yn yr ystafell ddosbarth – awydd i helpu’r dysgwyr yn hytrach na bod yn fy ystafell baratoi. Enillais fy Ngradd Meistr ac yna penderfynais ddilyn cwrs TAR yn CCAF. Cefais gymorth i wneud hyn gan Bennaeth yr Adran a hefyd cefais arian trwy gyfrwng y rhaglen Anelu at Addysgu. Tra’r oeddwn yn dilyn fy nghwrs TAR, cefais gyfle i fod yn arweinydd Sgiliau, gan ysgwyddo cyfrifoldeb dros gystadlaethau ysbrydoli sgiliau; ac yn wir, cawsom gryn lwyddiant. Ar ôl gorffen fy nghwrs TAR bûm yn gweithio fel darlithydd rhan-amser, a blwyddyn yn ddiweddarach dechreuais weithio fel darlithydd amser llawn, gan ysgwyddo rolau ychwanegol fel arweinydd digidol ac arweinydd gwrth-hiliaeth. Yna, dechreuais fy ngradd PhD. Ar hyn o bryd, rydw i ar ganol fy mhedwaredd flwyddyn ac mae gennyf ddwy flynedd ar ôl. Eleni cefais fy mhenodi’n Rheolwr Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg.

Yn CCAF, rydw i’n teimlo cysylltiad cryf â chenhadaeth arbennig, sef gweddnewid bywydau trwy addysg. Nid swydd yn unig mohoni – mae’n rhan o rywbeth mwy sy’n wirioneddol bwysig; mae rhyngweithio gyda myfyrwyr a staff o gefndiroedd amrywiol yn creu amgylchedd dynamig ac ysbrydoledig. Daw pob diwrnod â chyfleoedd newydd i ddysgu, addysgu a thyfu gyda’n gilydd. Mae arweinwyr CCAF yn gosod y cywair – maent yn hawdd siarad gyda nhw, maent yn dryloyw ac maent yn llawn gweledigaeth. Maent yn llwyddo i ennyn hyder ac annog arloesi ar bob lefel.

Un o’r prif fanteision yw’r modd y mae CCAF yn buddsoddi yn ei bobl. O gyrsiau datblygiad proffesiynol i gyfleoedd arwain, mae’r coleg yn ein helpu i brifio fel unigolion ac fel gweithwyr proffesiynol.

Trwy weithio yma, rydw i wedi cael cynifer o gyfleoedd, yn cynnwys mynd i Tsieina i addysgu Bioleg a theithio i Bosnia i siarad â phobl a oedd wedi goroesi hil-laddiad, ac fe wnaeth hynny fy arwain i fod yn aelod o fwrdd yr elusen ‘Remembering Srebrenica’. Hefyd, trwy gyfrwng cyfleoedd datblygu staff, rydw i wedi cael arian ar gyfer fy ngradd PhD, a chafodd fy nghwrs TAR ei ariannu gan Anelu at Addysgu.

Rydw i wedi cael llu o gyfleoedd eraill hefyd ers dechrau gweithio yma, yn cynnwys:

  • Cyflwyno gweithdy Fforensig ar gyfer yr adran ryngwladol, yn yr haf ac yn ystod y flwyddyn.
  • Beirniadu cystadlaethau Ysbrydoli Sgiliau ar gyfer y gystadleuaeth Technegydd Labordy a Gwyddoniaeth Fforensig.
  • Mynd i’r afael â rhaglenni TED, ac roeddwn yn rhan o raglen addysgu fyd-eang MIT i’m huwchsgilio fy hun
  • Arwain y prosiect AI (Deallusrwydd Artiffisial), gan gydweithio â Choleg Penybont
  • Datblygu ffeithluniau VR ar y cyd â Coleg Gwent
  • Siarad yn Digifest 2022

Hefyd, rydw i wedi ennill cryn dipyn o wobrau, fel ennill y wobr addysg a hyfforddiant yn 2021 a’r wobr datblygiad proffesiynol parhaus yn 2021, a chefais fy rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr esgyn yn 2019.

"