Cyfarfod … Jameela

"

Dechreuais weithio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn 2016, ond gan mwyaf fel mentor ieuenctid i’r cyngor, a rhoddwyd llwyth gwaith ar gyfer y Prentisiaid Iau i ddod i weithio gyda mentora un wrth un. O fewn cwpwl o fisoedd, daeth cyfle am swydd fel swyddog lles, ac ymgeisiais amdani yn llwyddiannus - roedd y rôl hon yn golygu gofalu am les, ymddygiad, diogelu a rhediad y rhaglen o ddydd i ddydd. Bûm yn gwneud hyn am ychydig flynyddoedd, yna gadewais am flwyddyn i gael profiad cyffelyb. Pan ddychwelais i’r coleg cefais fy mhenodi dros dro’n Ddirprwy Bennaeth yr Adran ar gyfer Prentisiaethau Iau, ac o fewn ychydig flynyddoedd cefais fy nyrchafu’n Rheolwr Prentisiaethau Iau, a digwyddodd hynny ychydig fisoedd yn ôl. Mae’r rôl hon yn ymwneud â llawer o waith, o gyllid ac amserlenni i reoli staff a rhediad y rhaglen o ddydd i ddydd. Mae gen i ddigonedd o gefnogaeth o fy amgylch, ond fy swydd i yw rhedeg yr holl adran a phopeth sy’n dod gyda hynny.


Rwyf wrth fy modd yn gweithio i'r coleg oherwydd mae’n teimlo fel amgylchedd teuluol - Rydych chi wastad yn clywed sgyrsiau am fod yn rhan o deulu CCAF. Rydym yn cael ein hedrych ar ein holau’n dda - mae gen i blant ifanc, ac roeddwn i’n fam sengl pan gychwynnais yma gyntaf, felly roedd yna dipyn o gefnogaeth i’w chael gyda hynny. Rwy’n caru’r amgylchedd. Mae pawb yn wirioneddol gyfeillgar - rydw i wedi gwneud cymaint o berthnasoedd hirdymor gwych gyda phobl ar draws bob adran. Rwy’n math o berson sydd jest yn dechrau siarad efo rhywun ar hap ac yna yn y pen draw rydyn ni’n dod yn ffrindiau!

Rwyf wrth fy modd efo fy swydd - dydw i byth yn segur o fore tan nos, ond fyddwn i ddim am iddi fod unrhyw ffordd arall. Mae’r bobl ifanc rwy’n gweithio gyda nhw a’r gwahaniaeth rydym ni’n ei wneud i’w bywydau yn anferthol, a phe na bai hi am y rhaglen yna, fyddem ni ddim yn gwybod ble fyddai’r bobl ifanc yma, mae’n golygu cael gwared ar y rhwystrau sydd ganddynt ym myd addysg. Mae llawer ohonyn nhw’n dod atom ni y tu ôl i wal frics oherwydd na chawson nhw brofiad gwych yn yr ysgol, felly mae’n cymryd dipyn o amser pontio gyda nhw i chwalu hynny ac ennill ymddiriedaeth. I mi, mae’n swydd sy’n werth chweil a’r hyn sy’n fy nghymell drwy’r dydd yw gwybod fy mod i’n helpu pobl ifanc, a thrwy hynny yn helpu’r gymdeithas.

Mae fy nyrchafiad i fod yn Rheolwr Prentisiaeth Iau wedi bod yn wych - ac mae edrych yn ôl i pan roedd y rhaglen yn cychwyn ac ystyried ei fod dal yma yn anhygoel i mi oherwydd rydw i wedi gweld cymaint mae e wedi tyfu. Rydw i hefyd wedi cwblhau fy nghwrs TAR drwy’r coleg a ddarparwyd gyda digonedd o gefnogaeth, ac fe wnaethant dalu amdano hefyd. Roedd hyn yn fy ngalluogi i mi wneud fy oriau o fewn yr adran hon ac adrannau eraill wrth weithio ac fe roddodd hynny ddigonedd o brofiad i mi - roedd e hefyd yn gwrs rhan amser, felly roeddwn i’n gallu gwneud hyn ochr yn ochr â fy ngwaith a fy mywyd gartref. Roedd yn brofiad dysgu newydd anferthol i mi gan fy mod i’n eithaf swil a dweud y gwir - ac mi fydd hynny’n dipyn o syndod i rai! Fe wnaeth hyn fy helpu i gyda fy hyder o ran bod yn gallu siarad yn broffesiynol ac mewn llefydd cyhoeddus, a jest cymryd y sgiliau hynny i mewn i’r ystafell ddosbarth hefyd. Pan roeddwn i’n gwneud fy TAR 1 roeddwn i hefyd yn gallu dysgu athrawon eraill ynghylch rheoli ymddygiad a sut i gefnogi pobl ifanc, felly roeddwn i’n gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth a fy mhrofiad.

"