Dechreuais fy siwrnai gyda CCAF oddeutu naw mlynedd yn ôl. Ar ôl gyrfa faith yn y maes Lletygarwch, roedd fy swydd fel rheolwr cymdeithas dai ar fin cael ei dileu, felly ymgeisiais am rôl ran-amser dros dro yn CCAF fel cynorthwyydd arlwyo, tra’r oeddwn yn ystyried fy opsiynau.
Yn fuan iawn, gofynnwyd imi ymgeisio am swydd amser llawn fel Technegydd Lletygarwch, a ddwy flynedd yn ddiweddarach cefais fy nyrchafu i swydd Uwch-dechnegydd, a oedd yn gyfrifol am reoli diogelwch bwyd ar draws tri champws.
Y peth gorau ynglŷn â gweithio yn CCAF yw’r cyfle i fynd ar drywydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Cefais fy annog i ddilyn cwrs rheoli diogelwch bwyd lefel 4, ac yn fuan wedyn fe wnes i gwblhau tystysgrif Asesydd lefel 3 a chwrs chyflwyniad i addysgu. O fewn dim o dro, roeddwn yn cyflwyno hyfforddiant diogelwch bwyd ac yn asesu dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth, ochr yn ochr â’m rôl fel uwch-dechnegydd.
Er fy mod wedi hyfforddi’n wreiddiol i fod yn Gogydd yng ngholeg addysg bellach y Barri, roeddwn wastad wedi gwirioni ar bobi ac roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i ddilyn cwrs FDQ Lefel 3 mewn Pobi ochr yn ochr â’m dyletswyddau rheolaidd.
Yna, soniodd fy rheolwr llinell am raglen “anelu at addysgu” CCAF a chyflwynodd fy enw ar gyfer cwrs addysgu rhan-amser dros gyfnod o ddwy flynedd, a ariannwyd yn llwyr gan y coleg.
Yn 2023, deuthum yn ddarlithydd cymwysedig mewn Lletygarwch ac rydw i wedi bod mewn rôl addysgu byth ers hynny.
Yn sgil cyfleoedd eraill a gynigir y coleg, rydw i wedi mynychu cyrsiau hyfforddi a gweithdai o amgylch y DU a thramor, gan feithrin fy sgiliau proffesiynol. Y llynedd, aethom â chriw o ddysgwyr i gystadleuaeth Bobi genedlaethol – fe wnes innau gystadlu hefyd ac enillais fedal arian am fy Nhorth Surdoes.
I mi’n bersonol, digwyddodd uchafbwynt fy siwrnai gyda CCAF ym mis Mehefin 2024 pan gefais fy ethol yn aelod llawn o Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd – ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb help a chymorth CCAF.