Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro yw’r mwyaf yng Nghymru ac mae ymhlith y 5 coleg uchaf yn y DU gyda throsiant o £100m a mwy na 30,000 o ddysgwyr yn cofrestru bob blwyddyn.
Fel y darparwr mwyaf ar brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yng Nghymru, mae’r Grŵp yn sbarduno cefnogaeth i bobl ifanc, cymunedau a busnesau ledled Prif-ddinas Ranbarth Caerdydd a thu hwnt.
Mae teulu CCAF yn cynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro, Hyfforddiant ACT ac ALS.
Mae ACT yn darparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu rhagorol sy'n helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial. O Hyfforddeiaethau, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch ar draws 30 o wahanol sectorau, i hyfforddiant cyflogadwyedd a chyrsiau byr ar gyfer busnes. Edrychwch ar Fwrdd Strategaeth ACT.
Mae ALS Training yn ddarparwr hyfforddiant, dysgu a datblygu blaenllaw gyda thros 1,300 o Brentisiaid yn dysgu bob wythnos. Mae ALS yn cynllunio, yn darparu ac yn gwerthuso ystod gynhwysfawr o ddulliau hyfforddi a datblygu i wasanaethu cyflogwyr a gweithwyr a'u hanghenion unigol.