Cefnogwn weledigaeth y ‘Ddinas Noddfa’ y bydd y DU yn lle croesawgar, diogel i bawb ac yn falch o gynnig noddfa i’r sawl sy’n ffoi rhag trais ac erledigaeth.
Cefnogwn y Siarter Dinas Noddfa, a chytunwn i ymddwyn yn unol â gwerthoedd Dinas Noddfa a chymhwyswn yr egwyddorion rhwydweithiol o fewn ein gwaith (cyn belled ag y bydd ein cyd-destun penodol yn ein galluogi i wneud hynny.)
Cydnabyddwn gyfraniad y sawl sy’n chwilio am noddfa. Croesawir, cynhwysir a chefnogir y sawl sy’n chwilio am noddfa o fewn ein cyd-destun. Disgwyliwn i’n canghennau neu grwpiau lleol (os oes rhai) gefnogi eu grŵp Dinas Noddfa lleol os oes un yn bodoli, ac fe wnawn hwyluso cysylltiad rhyngddynt a’r grŵp Dinas Noddfa lleol.”
Rydym yn fodlon i enw’n sefydliad gael ei ychwanegu at restr o gefnogwyr Dinas Noddfa, wedi’i gysylltu i’n gwefan. Rydym hefyd yn fodlon i Ddinas Noddfa gysylltu â ni gyda syniadau pellach ynghylch sut allwn newid ein cefnogaeth i fod yn weithred ymarferol ac i drafod y posibilrwydd o weithio gyda’n gilydd er mwyn hyrwyddo’r weledigaeth ymhellach.