CAVC Rider – gwasanaeth bws newydd am ddim i fyfyrwyr a staff Coleg Caerdydd a'r Fro

20 Medi 2022

Ar 5 Medi bydd Bws Caerdydd yn lansio CAVC Rider – sef gwasanaeth bws newydd ar gyfer Coleg Caerdydd a'r Fro.

Yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr a staff y Coleg, bydd y gwasanaeth bws yn teithio rhwng safleoedd CAVC o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Bydd Bws Caerdydd yn darparu bws a staff ar gyfer y gwasanaeth peilot, a fydd yn cael ei adolygu bob tymor.

Gall myfyrwyr a staff fynd ar y bws yng Nghampws Canol y Ddinas a bod ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol y Coleg neu’r House of Sport yn Lecwydd erbyn 9am, gyda'r gwasanaethau yn rhedeg rhwng y safleoedd drwy gydol y dydd tan 6pm.

Bydd gwasanaethau hefyd i Gampws y Barri a Chanolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) CAVC ym Maes Awyr Caerdydd. Bydd gwasanaeth bws ychwanegol yn rhedeg o Orsaf y Barri i Gampws y Barri ar Heol Colcot.

Bydd y gwasanaeth yn gwella mynediad i Gampws y Barri ac ICAT, ac yn galluogi myfyrwyr o bob campws i gael mwy o fynediad i Academïau Chwaraeon y Coleg. Bydd hefyd yn galluogi cydweithio agosach rhwng myfyrwyr a’u cyrsiau ar draws campysau.

Dywedodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn hynod o ddiolchgar i Fws Caerdydd am ddarparu CAVC Rider i ni. Bydd yn gwella mynediad i bob un o'n campysau i'n holl fyfyrwyr, gan roi cyfleoedd ychwanegol iddynt a'u galluogi i arbed costau tanwydd a helpu'r amgylchedd.”

Mae rhagor o wybodaeth ac amserlen i'w gweld ar wefan Bws Caerdydd yma: https://www.cardiffbus.com/college-bus-travel