Mae seremoni Wobrwyo Flynyddol Coleg Caerdydd a’r Fro yn uchafbwynt ar ein calendr digwyddiadau, lle rydym yn dathlu ac yn cydnabod cyflawniadau ein myfyrwyr a’n partneriaid busnes yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio gyda chydweithwyr, staff CAVC a busnesau lleol yn ein lleoliad sydd wedi’i drawsnewid yn llwyr ar thema Rhyfeddodau’r Gaeaf.
Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda derbyniad diodydd a bwyd o’r safon uchaf gan gogyddion ein bwyty ni, Y Dosbarth. Gall y gwesteion edrych ymlaen at fwynhau cerddoriaeth fyw gan ein cerddorion preswyl hynod fedrus wrth rwydweithio dros ddiod a chodi gwydryn i flwyddyn lwyddiannus arall.
Mae'r digwyddiad hwn trwy wahoddiad yn unig.
Fformat:
14:00 - 18:00 - Yr Atriwm ar gau er mwyn gosod pethau allan. Defnyddiwch y llwybrau allanol ar y llawr cyntaf i fynd o gwmpas yr adeilad.
16:00 - 18:00 - Mae'r Ganolfan Llwyddiant ar gau i sefydlu'r digwyddiad
18:30 - 21:30 – Y Seremoni Wobrwyo
21:30 – Digwyddiad yn gorffen a chlirio