Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth gefnogi addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu arbennig. Mae’n cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys datblygiad plant a phobl ifanc, cefnogi’r rhai ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig a chysylltiadau cyfathrebu a phroffesiynol.
Mae’n addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl sy’n cefnogi dysgu disgyblion.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl sydd wedi cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, waeth beth fo’u defnydd presennol o’r iaith.
Mae angen 30 credyd ar gyfer y dystysgrif. Bydd yn cael ei asesu gan eich tiwtor neu aseswr gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Gallai hyn gynnwys arsylwi uniongyrchol yn y gweithle, portffolio o dystiolaeth, aseiniadau ysgrifenedig neu dasg.
Mae angen lleoliad 2 ddiwrnod gorfodol i gwblhau eich cwrs ac mae’r lleoliad yn cael ei ddarparu yn un o 2 ysgol cyfrwng Cymraeg partner yn ardal Caerdydd.
Sylwch ei bod yn ofynnol i fyfyrwyr/ymgeiswyr gael Gwiriad DBS (gwiriad heddlu) cyn dechrau unrhyw hyfforddiant galwedigaethol neu brofiad gwaith yn y Maes Blynyddoedd Cynnar neu Ofal. Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd hyn.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Rhaid bod yn o leiaf 18 oed. Gwiriad DBS Manwl a chyfredol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.