Cyflwynir ein Diploma BTEC 90 Credyd mewn Technoleg Cerddoriaeth yng Nghanolfan Gymunedol Eastmoors yn Sblot, ac mae'n cynnwys tair prif elfen:
Wedi'u lleoli ar ein campws Allgymorth yng Nghaerdydd, bydd myfyrwyr yn dysgu am y diwydiant cerddoriaeth, sut i gynhyrchu trac, sut i gynnal gweithdai cerddorol yn y gymuned, a hefyd yn cael cyllideb i greu eu digwyddiad cerddorol eu hunain.
Bydd y myfyrwyr yn astudio nifer o fodiwlau gan gynnwys:
Dim - bydd dysgwyr yn cwblhau sgan sgiliau wrth fynd i mewn i'r cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Pan ymunais â’r coleg, astudiais gwrs Mynediad Galwedigaethol am ddwy flynedd, ac yna es ymlaen i astudio Cyfryngau MAC am flwyddyn yn Academi Cyfryngau, Caerdydd. O fy nghwrs Mynediad Galwedigaethol, byddwn wedi gallu symud ymlaen at gyrsiau coginio, gwyddoniaeth neu chwaraeon ymhlith eraill, ond dewisais gwrs cerddoriaeth. Roedd cael cynifer o gyfleoedd i ddewis o’u plith yn wych. Symudais ymlaen wedyn at Gerddoriaeth a Pherfformio Lefel 2 a Lefel 3. Fy ngham nesaf yw mynd i’r brifysgol. Fy nghyflawniad mwyaf ers bod yn y coleg yw ennill perfformiwr gorau CAVC yn 2020, a chael pobl sy’n credu yn yr hyn rwyf yn ei wneud yn cydnabod fy ngherddoriaeth oedd fy uchafbwynt mwyaf.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i addysg bellach neu'r brifysgol. Bydd nifer o fyfyrwyr hefyd yn mynd i weithio mewn amrywiol gyfleoedd cyflogaeth o fewn y diwydiant.