Inswleiddio a Thriniaethau Adeiladu (PLA)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Lleoliad Cymunedol
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i arddangos ac adnabod eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, ac i arddangos eu cymhwysedd mewn amgylchedd gwaith go iawn, fel eu bod yn gallu gweithredu fel gweithiwr Insiwleiddio a Thriniaethau Adeiladau o fewn y diwydiant adeiladu.

Mae yna nifer o arbenigeddau o fewn y sector, ac mae’r cymhwyster wedi ei ddatblygu gyda Llwybrau sy’n eich galluogi i ymgymryd â chymaint ohonynt â phosib.

Rhaid i’ch holl waith gael ei gyflawni yn unol ag Arferion Gweithio Diogel y Diwydiant, yn ogystal â chydymffurfio gyda deddfwriaethau perthnasol.

Bydd dysgwyr yn ymgymryd ag 1 Llwybr er mwyn cyflawni’r NVQ. Efallai y byddant yn penderfynu ymgymryd â llwybrau pellach, a gellir trafod hyn yn dilyn ymrestriad llwyddiannus.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Llwybrau Posib:

Llwybr 1 - Ystafelloedd yn y To

Llwybr 2 - Cartrefi Symudol

Llwybr 3 - Waliau Hybrid

Llwybr 4 - Insiwleiddio Rhannau o Adeilad sydd wedi’u Fframio (Gan gynnwys Toeau Gwastad, Toeau ar Oleddf a Thoeau Cynnes)

Llwybr 5 - Byrddiwr Insiwleiddio Waliau Allanol

Llwybr 6 - Gorffennwr Insiwleiddio Waliau Allanol

Llwybr 7 - Byrddiwr a Gorffennwr Insiwleiddio Waliau Allanol

Llwybr 8 - Inswleiddio Mewnol (Waliau)

Gofynion mynediad

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad yn eu maes dewisol.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn gyflogedig neu bod mewn sefyllfa lle gellir arsylwi gwaith sy’n mynd rhagddo.
Mae’n bosibl y bydd angen sgiliau TG sylfaenol arnoch chi, ond nid yw hynny'n hanfodol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Lleoliad Cymunedol
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSIBT3
L3

Cymhwyster

GQA Level 3 NVQ Diploma in Insulation and Building Treatments (Construction)