Bydd yr uned hon yn cyfarparu myfyrwyr â'r ddealltwriaeth ac egwyddorion sylfaenol o amgylcheddau dylunio 2D o ran caledwedd, meddalwedd ac amgylchoedd ffisegol. Bydd yn archwilio cyfansoddiad cyffredinol system CAD a materion iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig ag arferion gweithio diogel.
1.1 - Adnabod caledwedd sydd ei angen ar gyfer system CAD 2D
1.2 - Adnabod meddalwedd sydd ei angen ar gyfer system CAD 2D
1.3 - Rheoli ffeiliau gan gynnwys mathau o ffeiliau
1.4 - Dilyn deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifiaduron
1.5 - Disgrifio arferion gweithio diogel
1.6 - Disgrifio sut i atal anafiadau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r defnydd o gyfrifiadur am gyfn
Ffi Cwrs: £0.00
Gwaith Aseiniad Ymarferol ac Arholiadau Ar-lein.
Bydd angen i ymgeiswyr fod â diddordeb gwirioneddol mewn cynhyrchu dyluniadau â chymorth cyfrifiadur, ac wedi cwblhau cymhwyster lefel 2/cyfwerth neu feddu ar brofiad diwydiannol perthnasol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gallai’r cymwysterau arwain at yrfa fel dyluniwr CAD. Gallai hefyd eich helpu i symud ymlaen i gyrsiau tebyg ym maes Addysg Uwch.