Mae Dyfarniad Lefel 3 Cymwysterau AIM mewn Cyngor Ôl-ffitio Domestig yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i chi ddarparu cyngor ôl-ffitio. Mae'r cwrs yn hawdd ei ddilyn ac yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i ôl-ffitio tŷ cyfan i chi. Bydd y dysgwyr yn dod i ddeall beth yw ôl-ffitio domestig, beth mae i fod i'w gyflawni, a beth i gadw llygad amdano wrth osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi. Bydd yn cyflwyno'r cyfan sydd angen i chi ei wybod wrth weithio yn y diwydiant, felly rydych chi bob amser un cam ar y blaen.
Mae'r cwrs yn cynnwys 4 modiwl sy'n ymdrin â phob agwedd ar gyngor ôl-ffitio. Mae pob modiwl yn cynnwys deunyddiau addysgu helaeth, cyflwyniadau arbenigol, astudiaethau achos a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi o theori ac ymarfer.
Modiwlau’r Cwrs
• Rôl Ôl-ffitio wrth Ddefnyddio Ynni Cartref
• Egwyddorion Ôl-ffitio
• Y Diwydiant Ôl-ffitio a Rôl Cynghorwyr
• Deall Egwyddorion Cyngor Ôl-ffitio
Addysgu ac asesu
Hunanastudio Ar-lein
Mae'r 4 modiwl yn cymryd tua 30 awr i'w cwblhau a gallwch naill ai gwblhau'r rhain dros 4 diwrnod neu astudio ar gyflymder sy'n addas i chi, eich ffordd o fyw a'ch ymrwymiadau.
Dosbarth undydd dan arweiniad tiwtor ac wedyn asesiad Pwynt Terfyn. Mae'n ofynnol i’r dysgwyr lunio portffolio o dystiolaeth drwy gydol y cwrs, a fydd yn cael ei drafod yn yr Asesiad Pwynt Terfyn.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.