CompTIA Server+® (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Fel gweithiwr proffesiynol ardystiedig CompTIA Server+, byddwch yn gallu datblygu sgiliau gosod a chynnal caledwedd gweinydd, gweinyddiaeth a diogelwch gweinydd, datrys problemau ac adfer ar ôl trychineb.

Mae’r CompTIA CASP+ yn rhaglen e-ddysgu gynhwysfawr sy’n cynnwys gwersi a gweithgaredau ymarferol y gallwch ail-ymweld â hwy mor aml ag y bydd ei angen.

Mae’r ardystiad yn eich darparu â sgiliau sydd mewn galw ymysg cyflogwyr, gan eich helpu i ddechrau eich gyrfa TG ar y droed flaen.

Mae’r rhaglen hon yn gofyn am oddeutu 36 awr, gydag argaeledd hyblyg yn unol â phatrymau gwaith personol.

Bydd gan gynrychiolwyr 6 mis o’r dyddiad ymrestru i gwblhau'r rhaglen. Trefnir dyddiadau cwrs yn uniongyrchol gydag ALS Training unwaith y bydd cyllid wedi cael ei gymeradwyo.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Maes Llafur Swyddogol CompTIA Server+

Mae’r cwrs e-ddysgu CompTIA Server+ swyddogol yn cynnwys Strwythur Gweinydd, Defnydd o'r Gweinydd, Gweithrediadau Cwmwl, Diogelwch, hanfodion DevOps a Datrys Problemau Gweinydd.

Maes Llafur Server+

  • Gwers 1: Deall Cysyniadau Gweinyddiaeth Gweinydd
  • Gwers 2: Deall Rhithwirio a Chyfrifiadura Cwmwl
  • Gwers 3: Deall Cysyniadau Diogelwch Ffisegol a Rhwydwaith
  • Gwers 4: Rheoli Asedau Ffisegol
  • Gwers 5: Rheoli Caledwedd Gweinydd
  • Gwers 6: Rheoli Storfeydd Cyflunio
  • Gwers 7: Gosod a Chyflunio System Weithredu
  • Gwers 8: Datrys Problemau OS, Cymwysiadau a Chyfluniadau Rhwydwaith
  • Gwers 9: Rheoli Tasgau Gweinyddol Ôl-osod
  • Gwers 10: Rheoli Diogelwch Data
  • Gwers 11: Rheoli Argaeledd Data a Gwasanaeth
  • Gwers 12: Digomisiynu Gweinyddion

Labordai Ymarferol Ar-lein

  • Assisted Lab: Archwilio’r Amgylchedd Labordy
  • Assisted Lab: Adrodd ar Fanylebau Gweinydd Windows
  • Assisted Lab: Adrodd ar Fanylebau Gweinydd Linux
  • Assisted Lab: Defnyddio Hyper-V VM
  • Assisted Lab: Defnyddio Cynhwysydd Dociwr
  • Assisted Lab: Archwilio Gwasanaethau Rhwydwaith
  • Assisted Lab: Sicrhau Traffig Rhwydwaith gydag IPSec
  • Assisted Lab: Rheoli Stocrestrau System
  • Assisted Lab: Monitro Perfformiad yn Windows
  • Assisted Lab: Monitro Perfformiad yn Linux
  • APPLIED LAB: Defnyddio a Monitro Gweinyddion
  • Assisted Lab: Rheoli Cofnodion Digwyddiadau yn Windows
  • Assisted Lab: Rheoli Cofnodion Digwyddiadau yn Linux
  • Assisted Lab: Cyflunio Storfa RAID yn Windows
  • Assisted Lab: Cyflenwi Storfa iSCSI
  • Assisted Lab: Defnyddio Gweinydd Cymwysiadau Linux
  • Assisted Lab: Cyflunio Cynwyseddau yn Linux
  • Assisted Lab: Rheoli Cyfluniadau Rhwydwaith
  • Assisted Lab: Datblygu Dogfennaeth Rhwydwaith
  • Assisted Lab: Datblygu Sgriptiau Bash Gweinyddol
  • Assisted Lab: Datblygu Sgriptiau Gweinyddol PowerShell
  • APPLIED LAB: Rheoli Storfa a Rhwydweithiau
  • Assisted Lab: Datrys Problem Rhwydwaith
  • Assisted Lab: Archwilio Cyfrifon a Chaniatâd yn Windows
  • Assisted Lab: Cyflunio Rolau Gweinydd
  • Assisted Lab: Cyflunio Rhyngwynebau Gweinyddol
  • Assisted Lab: Rheoli Cof Rhithiol
  • Assisted Lab: Cyflunio Gwrthrychau Polisi Grŵp
  • Assisted Lab: Dadansoddi Sylfeini Cyflunio
  • APPLIED LAB A: Datrys Problemau Gweinyddion Senario #1
  • APPLIED LAB B: Datrys Problemau Gweinyddion Senario #2
  • APPLIED LAB C: Datrys Problemau Gweinyddion Senario #3
  • Assisted Lab: Cyflunio EFS a BitLocker
  • Assisted Lab: Datrys Problem Diogelwch
  • Assisted Lab: Cyflunio Datrysiadau wrth Gefn ar Weinydd Windows
  • Assisted Lab: Cyflunio Datrysiadau wrth Gefn ar Linux
  • Assisted Lab: Cyflunio Clwstwr Gweinydd Ffeiliau
  • Assisted Lab: Datgomisiynu Rheolwr Parth
  • APPLIED LAB A: Datrys Problemau Diogelwch Gweinydd Senario #1
  • APPLIED LAB B: Datrys Problemau Diogelwch Gweinydd Senario #2

Manylion Arholiad CompTIA Server+

Arholiad: Cod SK0-005

Mae CompTIA Server+ SK0-005 yn dilysu sgiliau ymarferol gweithwyr proffesiynol TG sy’n gosod, rheoli ac yn datrys problemau gweinyddion. Mae’r arholiad niwtral o ran gwerthwr yn cadarnhau’r sgiliau technegol ac ymarferol angenrheidiol ar gyfer gweithrediadau Gweinyddion ar draws pob platfform ac amgylchedd.

Fformat yr Arholiad - Amlddewis, a seiliedig ar berfformiad.

Nifer y Cwestiynau - Uchafswm o 90.

Hyd - 90 Munud.

Mae eich ymrestriad yn cynnwys labordai ymarfer.

Marc pasio - 750/900 (83.3%).

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

37 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSCOMPSERV
L3

Cymhwyster

CompTIA Server+® (PLA)