Mae’r galw am weithwyr proffesiynol ardystiedig a medrus, sy’n gallu gweithredu a rheoli datrysiadau Cwmwl, wedi tyfu’n helaeth, heb unrhyw arwydd o arafu, gan wneud Cyfrifiadura Cwmwl yn ddewis gyrfa nodedig.
AWS yw’r seilwaith cwmwl mwyaf blaenllaw a mwyaf cydnabyddedig yn y byd, gan ei wneud yn ardystiad gwych i’w ddewis wrth symud i yrfa Cwmwl.
Y Pensaer Datrysiadau AWS - Ardystiad cydymdaith yw’r cymhwyster uchaf ei barch ym maes Cyfrifiadura Cwmwl, gan roi’r wybodaeth i chi ddilyn gyrfa yn y maes fel pensaer, a gweithredu fel platfform i ardystiadau AWS arbenigol eraill, fel Data Mawr, Dysgu Peiriant, neu Ddiogelwch.
Mae’r cwrs 6 diwrnod hwn yn rhedeg yn rheolaidd, a bydd cynrychiolydd yn trefnu dyddiadau dechrau cwrs yn uniongyrchol gyda darparwr y cwrs ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo ar gyfer cyllid.
Ymarferydd Cwmwl Ardystiedig AWS
Ar ôl cwblhau'r uned hon yn llwyddiannus, byddwch yn gallu:
Pensaer Atebion Ardystiedig AWS
Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, bydd ardystiad AWS Soulsions Architect - Associate yn eich galluogi i:
• Deall sut i ddefnyddio gwasanaethau defnyddio a rheoli AWS.
• Nodi a diffinio gofynion technegol ar gyfer cais sy'n seiliedig ar AWS.
• Deall egwyddorion pensaernïol sylfaenol adeiladu ar y Cwmwl AWS.
• Dysgu am isadeiledd byd-eang AWS
• Deall y nodweddion ac offer diogelwch mae AWS yn eu darparu.
Argymhellir bod gennych naill ai 12 mis o brofiad yn datrys problemau a gweithredu atebion gan ddefnyddio’r Cwmwl AWS yn barod, neu eich bod wedi ymgymryd ag ardystiad Ymarferydd Cwmwl Ardystiedig AWS. Dylai fod gennych sgiliau TG sylfaenol hefyd.
Cynhelir y cwrs 6 ddiwrnod hwn ar-lein drwy ystafell ddosbarth rithiol, ar benwythnosau, Dydd Sadwrn - Sul 9am- 6pm.
Bydd angen cyfrifiadur/gliniadur gyda microffon a chamera arnoch.
Cynhelir y cwrs ar benwythnosau yn olynol. Bydd oriau astudio ychwanegol, yn eich amser eich hun
Ar ôl 6 diwrnod o astudio, bydd dysgwyr yn archebu eu harholiadau eu hunain ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.
Manylion Arholiad Ymarferydd Cwmwl AWS
Fformat arholiad - Aml-ddewis, sawl ateb
Hyd - 90 munud
Pensaer Atebion Ardystiedig AWS
Fformat arholiad - Aml-ddewis, sawl ateb
Dull Cyflwyno - Canolfan Brofi neu arholiad dan oruchwyliaeth ar-lein.
Hyd - 130 munud
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.