Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant (CDP)
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn gyflwyniad i addysgu a fydd yn rhoi gwybodaeth am rôl, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant, sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol.
Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n dechrau ymgymryd â sesiynau hyfforddi byr.
Hefyd gall y cymhwyster yma eich helpu chi i wneud cynnydd mewn swyddi addysgu/hyfforddi a chefnogi mewn amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes.
Dyddiadau Lefel 3 mewn Addysd a Hyfforddiant 2022-2023
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Yn ystod y cwrs pump diwrnod byddwch yn rhoi sylw i’r meysydd canlynol:
- Deall pob Rôl, Cyfrifoldeb a Pherthynas mewn Addysg a Hyfforddiant
- Deall a Defnyddio Dulliau Addysgu a Dysgu Cynhwysol mewn Addysg a Hyfforddiant
- Deall Asesu mewn Addysg a Hyfforddiant
Mae’r cwrs yn cynnwys llawer o sesiynau gweithdy ymarferol a bydd y dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu a chyflwyno micro sesiwn a derbyn adborth gan yr hyfforddwr.
Mwy
Ro’n i’n meddwl bod y cwrs yn hynod ddiddorol – ro’n i’n bryderus i ddechrau, ond roedd fy nhiwtor yn anhygoel. Roedd adegau pan ro’n i’n meddwl na fyddwn yn gallu gorffen pethau ar amser gan fy mod i’n gweithio, ond doedd hyn ddim yn broblem oherwydd y terfynau amser hyblyg. Mae’r sgiliau a ddysgais ar y cwrs yn bendant wedi fy helpu gyda fy nyheadau ar gyfer y dyfodol. Byddwn i wir yn ei argymell.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu