Meddalwedd animeiddio yw Adobe After Effects, a ddefnyddir ar gyfer effeithiau gweledol a chreu lluniau symudol. Fe’i defnyddir ym maes ffilmiau a theledu. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â phrofiad o ddefnyddio After Effects ac sy’n dymuno dod yn Ddefnyddiwr Ardystiedig.
Bydd y cwrs yn darparu fideos ‘rhagarweiniol’ i’r feddalwedd drwy ddull dysgu cyfunol, a fydd yn gloywi dealltwriaeth myfyrwyr o hanfodion After Effects. Bydd gan ddysgwyr fynediad at fideos cyn dyddiad cychwyn y cwrs, cyn mynychu’r dosbarth, i astudio pynciau uwch After Effects, gyda thiwtor profiadol.
Cynhelir y cwrs dros gyfnod o 3 wythnos, i ganiatáu amser rhwng gwersi i ddysgwyr ymarfer yr hyn maent wedi ei ddysgu yn ystod eu gwers. Ar ddiwrnod olaf y cwrs byddwch yn sefyll arholiad sydd wedi’i gymeradwyo gan Adobe i ennill statws Arbenigwr Ardystiedig Adobe mewn After Effects.
Ar y cwrs hwn byddwch yn mynd i'r afael â:
Ffi Cwrs: £660.00
Byddai'n ddymunol i ymgeiswyr fod â gwybodaeth sylfaenol am sut i ddefnyddio cyfrifiadur.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.